Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi cadarnhau y bydd y cyfyngiadau yng Nghymru yn cael eu hymestyn a’u “cryfhau”.
Mae hyn yn golygu y bydd busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol, lleoliadau lletygarwch, adeiladau trwyddedig a chyfleusterau hamdden yn parhau ar gau.
Cadarnhaodd hefyd y bydd ysgolion a cholegau yn parhau i ddysgu ar-lein tan hanner tymor mis Chwefror oni bai bod gostyngiad “sylweddol” mewn achosion.
Daeth y cyfyngiadau presennol i rym yng Nghymru am hanner nos ar Ragfyr 19.
‘Pwynt arwyddocaol’
Eglurodd Mark Drakeford fod achosion yng Nghymru yn parhau i fod yn uchel iawn a bod y Gwasanaeth Iechyd o dan bwysau “gwirioneddol a pharhaus.”
Serch hynny, dywedodd mewn cyfweliad gyda BBC Breakfast bore ma (Dydd Gwener, Ionawr 8) nad oedd angen cyflwyno cyrffiw ar hyn o bryd i reoli nifer cynyddol yr achosion.
Cofnodwyd 1,718 yn rhagor o achosion o’r coronafeirws yng Nghymru ddoe, Ionawr 7, gan fynd â chyfanswm yr achosion a gadarnhawyd i 163,234.
Nododd Iechyd Cyhoeddus Cymru 63 yn rhagor o farwolaethau, gan fynd â’r cyfanswm yng Nghymru ers dechrau’r pandemig i 3,801.
“Mae pandemig y coronafeirws wedi cyrraedd pwynt arwyddocaol,” meddai.
“Mae’n rhaid i’r cyfyngiadau lefel rhybudd pedwar a gyflwynwyd gennym cyn y Nadolig aros yn eu lle i’n cadw ni i gyd yn ddiogel.”
“Cyfnod tywyll”
Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru bydd hefyd rhaid i safleoedd gwerthu ceir a dodref gau dan y cyfyngiadau, ac y byddant yn adolygu pa fesurau ychwanegol y mae angen i archfarchnadoedd a manwerthwyr mawr eu rhoi ar waith i ddiogelu pobl yn y siopau.
“Mae hwn yn teimlo fel cyfnod tywyll ond mae’r brechlynnau Covid-19 newydd yn cael eu cyflwyno ledled Cymru, gan roi llwybr i ni allan o’r pandemig hwn,” ychwanegodd Mark Drakeford.
“Bydd angen ymdrech enfawr i frechu pawb ac, er bod diwedd y pandemig hwn yn y golwg, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn dilyn y rheolau ac yn aros gartref. Rydym wedi gwneud cymaint o aberth gyda’n gilydd a rhaid i ni beidio â stopio nawr.”
“Ble bynnag mae cymysgu; ble bynnag mae pobl yn dod at ei gilydd, mae’r amrywiolyn newydd yn lledaenu – mae’n hynod drosglwyddadwy ac yn lledaenu’n gyflym iawn o berson i berson,” ychwanegodd y Prif Weinidog.
“Mae’n rhaid i ni i gyd aros gartref, diogelu’r GIG, ac achub bywydau. Gyda’n gilydd, byddwn yn cadw Cymru’n ddiogel.”