Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford newydd gyhoeddi y bydd Cymru gyfan yn cael ei rhoi o dan gyfyngiadau clo ‘Lefel 4’.

Daw hyn ar ôl i Boris Johnson gyflwyno cyfyngiadau cyffelyb yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr.

Fe fydd pob siop nwyddau heb fod yn hanfodol a thafarn a chanolfannau hamdden yn cau o hanner nos heno ymlaen.

Mae’r trefniadau i lacio cyfyngiadau am bum niwrnod dros y Nadolig wedi cael eu diddymu, gan eu cyfyngu i ddau gartref yn cyfarfod ddydd Nadolig yn unig.

Daw’r newid yn sgil rhybuddion gan wyddonwyr fod yr amrywiad newydd o’r coronafeirws yn lledaenu’n llawer cyflymach.

“Roedd heddiw’n un o’r dyddiau hynny a oedd yn gofyn am ymateb ar unwaith,” meddai Mark Drakeford mewn datganiad.

“Mae’r sefyllfa’n hynod ddifrifol – ni allaf or-ddweud hyn. Rydym felly wedi cymryd y penderfyniad anodd i symud ymlaen gyda chyfyngiadau lefel 4 yng Nghymru, yn unol â’r camau sydd wedi eu cymryd yn Llundain a De-ddwyrain Lloegr.

“Fe fydd cyfyngiadau aros gartref yn dod i rym am hanner nos.

“Yn anffodus hefyd rhaid inni hefyd edrych eto ar y trefniadau ar gyfer y Nadolig – allwn ni ddim gadael pobl yn agored i’r straen newydd fwy cydnerth hon o’r coronafeirws.”

Achub bywydau

“Er ein bod ni i gyd eisiau osgoi tarfu pellach ar fusnesau a chynlluniau ar gyfer y Nadolig, ein prif ddyletswydd yw amddiffyn bywydau yma yng Nghymru.

“Fe wyddom y bydd 2021 yn flwyddyn wahanol a gwell. Fe fydd ein heconomi’n dod ati’i hun. Fe ddaw Nadolig eto. Ond mae bywydau a gaiff eu colli’n cael eu colli am byth.

“Mae’r straen newydd o’r feirws yn ergyd annisgwyl enbyd arall yn y pandemig hirfaith hwn. Mae gennym bandemig o fewn pandemig, argyfwng o fewn argyfwng.

“Mae’n her arall y bydd yn rhaid inni ei oresgyn. Ond yn un y byddwn yn ei oresgyn gyda’n gilydd. Byddwn yn parhau i amddiffyn ein hunain a’n hanwyliaid, a gyda’n gilydd, byddwn yn cadw Cymru’n ddiogel.”

Ymateb y Ceidwadwyr

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Paul Davies AoS, Arweinydd y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru:

“Ar ôl cael fy mriffio gan Brif Weinidog Cymru heddiw, gallaf werthfawrogi’n llawn yr angen am gyfyngiadau mwy difrifol yng Nghymru, yn enwedig lle mae cyfraddau heintio’n uchel, ac mae straen newydd y feirws yn cylchredeg.

“Rwy’n gwybod y bydd llawer o bobl yn siomedig gan eu bod yn edrych ymlaen at weld eu hanwyliaid y Nadolig hwn, ond yn wyneb y dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg mae’n glir bod yn rhaid i drefniadau swigod Nadolig newid.

“Drwy gydweithio a chadw at y rheolau gallwn sicrhau y bydd cymaint o bobl â phosibl o gwmpas i ddathlu’r Nadolig gyda’i gilydd yn y blynyddoedd i ddod.”

Ymateb Plaid Cymru

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AoS:

“Yng ngoleuni’r cyngor gwyddonol cryfaf posibl, mae’n briodol cymryd camau pendant i reoli lefel yr achosion, achub bywydau a lleddfu’r pwysau cynyddol ar y GIG.

“Dyna pam y gwnaethom alw ar Lywodraeth Cymru i weithredu’n gynharach yr wythnos hon – yn hytrach nag oedi penderfyniad a oedd yn ymddangos yn anochel.

“Mae’n sicr y bydd cyflwyno cyfyngiadau newydd, tynnach, yn siom i’r rhai oedd wedi bwriadu gweld ffrindiau a theulu dros gyfnod y Nadolig.

“Fodd bynnag, mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i gadw ein gilydd yn ddiogel. […] Mae angen inni ymdrech ar y cyd, yn enwedig gan fod amrywiolyn newydd o Covid-19 wedi’i ganfod.

“Doedd neb eisiau Nadolig fel hyn. Bydd y cyfyngiadau diweddaraf hyn yn pwysleisio’r angen i gyflwyno’r brechlyn yn gyflym, cynyddu’r cymorth ariannol i’r rhai sy’n hunanynysu a chyflwyno pecyn cymorth i fusnesau.”