Mae Boris Johnson wedi cyhoeddi cyfyngiadau newydd llym dros y Nadolig yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr a fydd yn effeithio ar filiynau o bobl yno.

Fe fydd pobl sy’n byw yn yr ardaloedd Haen 3 yn symud i Haen 4 o yfory ymlaen – sydd i bob pwrpas yn gyfystyr â dychwelyd i reolau’r cyfnod cloi ym mis Tachwedd. Mae’n golygu y bydd gofyn i bobl sy’n byw yno aros adref ac na ddylai pobl o’r tu allan ymweld.

Mae hefyd yn golygu cefnu ar y cynlluniau gwreiddiol i lacio cyfyngiadau dros y Nadolig yng ngweddill Lloegr, gan eu cwtogi o bum diwrnod i Ddydd Nadolig yn unig.

Daw’r penderfyniad ar ôl i wyddonwyr ddod i’r casgliad fod yr amrywiad newydd o’r coronafeirws yn lledaenu’n gyflymach.

Cafodd y Prif Weinidog ei gynghori gan y gwyddonwyr neithiwr, a chafodd y rheoliadau eu cadarnhau gan y Cabinet yn gynharach heddiw.

“Rydym yn aberthu’r cyfle i weld ein hanwyliaid y Nadolig hwn fel y cawn ni siawns gwell o ddiogelu eu bywydau fel y gallwn ni eu gweld nhw mewn Nadoligau yn y dyfodol,” meddai.

Mae Gweinidog Swyddfa’r Cabinet Michael Gove wedi briffio llywodraethau datganoledig Gogledd Iwerddon ar y datblygiadau diweddaraf.

Darllen mwy