Mae parafeddygon o Weriniaeth Iwerddon wedi croesi’r ffin i fynd i helpu eu cydweithwyr yng Ngogledd Iwerddon y penwythnos yma.

Daw hyn wrth i’r gwasanaeth iechyd yng Ngogledd Iwerddon barhau i wynebu pwysau mawr yn sgil y pandemig coronafeirws.

Mae 427 o gleifion Covid-19 mewn ysbytai yno, gan gynnwys 30 mewn uned gofal dwys, ac mae 82 o achosion mewn cartrefi gofal.

Dywedodd Pennaeth Gwasanaeth Iechyd Iwerddon, Paul Ried, fod criwiau ambiwlans o’r Weriniaeth wedi bod yn gweithio law yn llaw â’u cydweithwyr o Wasanaeth Ambiwlans Gogledd Iwerddon ers neithiwr.

“Iechyd pobl sy’n cael blaenoriaeth,” meddai.

Fe fydd cyfnod clo llym am chwe wythnos yn cychwyn yng Ngogledd Iwerddon Dydd San Steffan.