Mae’r Prif Weinidog Boris Johnson yn cynnal trafodaethau brys gyda Gweinidogion ei Gabinet ymysg pryderon fod amrywiad newydd o’r coronafeirws yn mynd allan o reolaeth.

Daw adroddiadau ei fod o dan bwysau i gyflwyno cyfyngiadau teithio newydd yn ne-ddwyrain Lloegr er mwyn arafu lledaeniad yr amrywiad.

Mae’r cyfarfod yn dilyn trafodaeth rhwng arweinwyr pedair gwlad Prydain yn gynharach heddiw, ac mae Mark Drakeford hefyd yn cadeirio cyfarfod o Gabinet Cymru ar hyn o bryd.

Daw’r pryderon ar ôl i brif swyddog meddygol Lloegr, yr Athro Chris Whitty, hysbysu Sefydliad Iechyd y Byd eu bod wedi dod i’r casgliad y gall yr amrywiad newydd o’r feirws ledaenu’n gyflymach.

Fe fydd Boris Johnson, Chris Whitty a phrif ymgynghorydd gwyddonol y llywodraeth, Syr Patrick Vallance, yn cynnal cynhadledd i’r wasg am 4 o’r gloch.

Darlllen mwy