Mae ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru’n cadarnhau fod cyfraddau coronafeirws wedi cynyddu mewn 20 o’r 22 o siroedd Cymru dros y saith diwrnod diwethaf.
Cafodd ychydig dros 3,000 o achosion newydd eu cadarnhau dros y cyfnod 24 awr diwethaf, gan godi’r cyfanswm i 120,432.
Mae’r cyfartaledd treigl saith diwrnod yn fwy na 500 achos i bob 100,000 yng Nghymru, ac yn fwy na 1,000 i bob 100,000 o boblogaeth mewn dwy sir, sef Merthyr Tudful a Pen-y-bont ar Ogwr.
Cafodd 35 yn rhagor o farwolaethau hefyd eu cofnodi dros y cyfnod 24 awr diwethaf, ddiwrnod ar ôl i gyfanswm y marwolaethau groesi’r trothwy o 3,000.