Dywed y naturiaethwr Syr David Attenborough iddo floeddio’i gymeradwyaeth pan ddeallodd fod Joe Biden wedi cael ei ethol a bod America am ailymuno â Chytundeb Paris ar newid hinsawdd.
“Doeddwn i erioed wedi codi o’m cadair a chymeradwyo ar fy mhen fy hun cyn hynny – hyd yn oed yn ein hetholiadau ni,” meddai.
Mae’r darlledwr 94 oed wedi bod yn rhybuddio’n gyson am yr angen am ymrwymiadau gan wledydd ledled y byd i weithredu yn erbyn newid hinsawdd.
“Rydym yn wynebu argyfwng gwirioneddol,” meddai. “Os ydym yn cynhesu’r ddaear i’r fath raddau fod yr Arctig yn meirioli, fe fydd bron iawn bob dinas fawr yn y byd o dan ddŵr.
“Cafodd cyfran uchel o ddinasoedd pwysig y byd eu codi wrth yr arfordir oherwydd eu porthladdoedd, ac os bydd yr Arctig yn meirioli mae’r môr am godi a gorlifo’r dinasoedd hynny.
“Nid dychymyg yw hyn, nid H G Wells, nid ffuglen gwyddonol, mae’n mynd i ddigwydd ac mae’n dal i fod siawns gennym i’w rwystro rhag digwydd.”
Fe fydd newid hinsawdd ymysg y pynciau a gaiff eu trafod mewn cyfres newydd ganddo ar BBC1, A Perfect Planet, a fydd yn cychwyn ar 3 Ionawr. Fe fydd y gyfres yn edrych effeithiau elfennau naturiol fel golau’r haul, llosgfynyddoedd, tywydd a moroedd – ac effeithiau pobl – ar y ddaear.