Mae Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi cynllun “adferiad gwyrdd” i drawsnewid miloedd o hectarau o dir gwastraff a diffaith ledled y wlad.
Amcanion y rhaglen gwerth £50 miliwn yw helpu cyrraedd targedau newid hinsawdd a gwella iechyd, lles a gwydnwch cymunedau.
Fe fydd y safleoedd tir gwastraff yn cael eu defnyddio ar gyfer tai fforddiadwy, creu coetir a llecynnau gwyrdd eraill, neu ddatblygiadau masnachol carbon-isel.
Meddai Ysgrifennydd Cymunedau Llywodraeth yr Alban, Aileen Campbell:
“Fe fydd y rhaglen £50 miliwn newydd hon yn helpu trawsnewid tir gwag a diffaith yr Alban fel rhan o adferiad gwyrdd sy’n cefnogi pob cymuned.
“Mae gan yr Alban ar hyn o bryd dros 11,000 hectar o dir wedi ei gofrestru a allai gynnig potensial sylweddol i’w ddefnyddio er budd cymunedau.
“Trwy roi blaenoriaeth i safleoedd o’r fath, a diogelu’n cyfalaf naturiol presennol, byddwn yn sicrhau bod buddsoddiad seilwaith yn y dyfodol yn mynd i’r ardaloedd sydd ei angen fwyaf.”