Mae’r trafodaethau ar gytundeb masnach rhwng Prydain a’r Undeb Ewropeaidd yn parhau’r penwythnos yma, gyda’r ddwy ochr yn rhybuddio bod gwahaniaethau sylweddol rhyngddyn nhw.
Roedd Senedd Ewrop wedi bod yn pwyso am gytundeb erbyn yfory fel y gall ei gadarnhau cyn i gyfnod pontio Brexit ddod i ben ar Ragfyr 31.
Er hyn, mae lle i gredu y gallai arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd arwyddo cytundeb hyd yn oed os aiff y trafodaethau’n hwyrach na hynny, i’w gadarnhau’n ffurfiol yn gynnar yn y flwyddyn newydd.
Mae Aelodau Seneddol Prydain ar alwad i ddychwelyd i San Steffan os bydd bargen yn cael ei tharo yn ystod dyddiau olaf y flwyddyn.
Dywedodd y Prif Weinidog Boris Johnson fod y trafodaethau’n profi i fod yn ‘anodd’ a galwodd ar yr Undeb Ewropeaidd i ‘weld synnwyr’ a dod â rhywbeth newydd i’r bwrdd.
Rhybuddiodd Michel Barnier, prif negodwr yr Undeb Ewropeaidd, fod y trafodaethau’n nesáu at bwynt tyngedfennol a bod y llwybr at gytundeb yn “gul iawn”.
‘Diffyg paratoi digonol’
Os na fydd cytundeb erbyn Rhagfyr 31, bydd Prydain yn gadael y farchnad sengl a’r undeb tollau ac yn cychwyn masnachu â’r Undeb Ewropeaidd ar delerau Sefydliad Masnach y Byd – gyda thariffau’n debygol o arwain at brisiau uwch yn y siopau.
Hyd yn oed os bydd cytundeb, fe fydd newidiadau mawr ar y ffin o Ionawr 1 gyda gwiriadau newydd ac ofnau am oedi hir.
Lai na phythefnos cyn y newid, mae Pwyllgor Dethol Brexit Ty’r Cyffredin wedi datgan pryder nad yw’r llywodraeth wedi paratoi’n ddigonol ar gyfer y sefyllfa.
Mewn adroddiad a gaiff ei gyhoeddi heddiw, mae’r Pwyllgor yn dweud bod penderfyniadau wedi cael eu gwneud yn “rhy hwyr” a bod y cyfathrebu â busnesau wedi bod yn “dameidiog ar y gorau”.