Mae gwyddonydd blaenllaw o’r farn mai gohirio’r Nadolig fyddai’r ffordd orau o geisio rhwystro’r coronafeirws rhag lledaenu.

Dywed yr Athro Stephen Reicher o Brifysgol St Andrews fod y Nadolig yn gyfystyr ag anrheg i’r feirws a bod y cinio Nadolig teuluol yn cynnig yr amodau perffaith iddo ledaenu.

Daw rhybudd yr athro seicoleg, sy’n cynghori’r llywodraeth ar ymddygiadau cysylltiedig â’r pandemig, wrth i’r amcangyfrifon diweddaraf ddanogs bod cyfradd atgynhyrchu’r feirws – y gyfradd ‘R’ – wedi codi i rhwng 1.1 a 1.2.

“Wrth gwrs, does arnom ni ddim eisiau rhoi anrheg i’r feirws, mae arnom eisiau edrych ar ôl ein hunain, a’r ffordd orau o wneud hynny, yn anffodus, dw i’n meddwl yw gohirio’r Nadolig os gallwn ni,” meddai’r Athro Reicher.

Mae’n cydnabod nad yw’n rhesymol disgwyl i bawb wneud hyn.

“Dw i’n cydnabod ei bod yn gwneud synnwyr i rai teuluoedd gyfarfod – os oes gennych chi berthynas oedrannus na fydd yn gweld Nadolig arall efallai neu rywun sy’n dioddef yn ddrwg, fe fydd eithriadau,” meddai.

“Ond os ydym yn troi’r eithriad yn rheol ac os oes llawer o bobl yn cyfarfod, yna rydym yn wynebu trychineb.”

Mae o’r farn fod pum niwrnod yn gyfnod rhy hir i fod yn llacio rheolau ac mae’n rhybuddio am ganlyniadau pobl o wahanol leoedd yn cymysgu â’i gilydd.

“Y broblem yw os ydych yn cymysgu lefelau uchel a lefelau isel o’r haint, yna rydych yn ailhadu’r haint mewn lleoedd lle nad yw mor gryf ac yn ail-lansio’r pandemig,” meddai.