Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno mesurau dros dro i geisio lleihau tagfeydd ar yr A55 ger Caergybi ar ôl i gyfnod pontio’r Undeb Ewropeaidd ddod i ben ddiwedd y flwyddyn.

Daw hyn yn sgil ofnau y gall hyd at 70% o gerbydau nwyddau trwm sy’n cyrraedd porthladdoedd Prydain gael eu gwrthod am nad oes ganddyn nhw’r dogfennau cywir.

O dan y drefn newydd fe fydd lorïau a fydd yn cael eu gwrthod yn y porthladd yn cael eu cyfeirio’n ôl i deithio mewn cylch ar yr A55 i safleoedd eraill i ddisgwyl i’w gwaith papur fod yn barod – er mwyn eu hatal rhag creu tagfeydd yn y dref.

Mae arwyddion eisoes wedi eu gosod ar yr A55 yn rhybuddio gyrwyr y bydd gwrthlif hefyd mewn grym rhwng cyffyrdd 2 a 4 o 28 Rhagfyr ymlaen.

Mae Llywodraeth Cymru’n rhybuddio ei bod yn anochel y bydd oedi i deithwyr.

“Nod ein cynlluniau wrth gefn yw sicrhau bod cyn lleied â phosibl o darfu ar weithrediad y porthladd ac ar fywydau cymunedau lleol Caergybi ac Ynys Môn,” meddai Ken Skates, y Gweinidog Trafnidiaeth a Gogledd Cymru.

“Er ein bod wedi rhagweld faint o gerbydau nwyddau trwm fydd yn cael eu gwrthod yn yr wythnosau cyntaf ar ddiwedd y cyfnod pontio, mae hyn yn sefyllfa hollol newydd inni gyd. Y peth cyfrifol ac angenrheidiol i’w wneud yw paratoi ac adolygu ein cynlluniau yn rheolaidd.

“Mae’r arwyddion wedi’u gosod i gynghori gyrwyr y gallai fod oedi o 1 Ionawr ymlaen. Rydym yn disgwyl i’r oedi hwnnw fod ar ei waethaf tua chanol mis Ionawr ond byddwn yn cynghori teithwyr a’r gymuned leol i wirio’r wybodaeth ddiweddaraf am y traffig o 1 Ionawr ymlaen rhag ofn y bydd unrhyw broblemau.”