Mae 14 o rybuddion llifogydd mewn grym ar afonydd sy’n cynnwys Teifi, Tywi, Gwy ac Wysg yn y de a’r Ddyfrdwy yn y gogledd-ddwyrain, ar ôl dyddiau o law trwm.

Mae’r rhain yn rhybuddion coch sy’n gofyn am weithredu ar frys.

Yn ogystal, mae 44 o rybuddion melyn – sy’n gofyn i bobl fod ar eu gwyliadwriaeth – mewn grym ym mhob sir yng Nghymru ac eithrio Sir Fôn.

Mae disgwyl i gawodydd trwm barhau dros y dyddiau nesaf er y bydd cyfnodau sych a heulog hefyd. Mae yfory’n debygol o fod yn ddiwrnod oerach ar y cyfan.