Caernarfon 1-1 Y Drenewydd

Gôl yr un a phwynt yr un a oedd hi wrth i Gaernarfon groesawu’r Drenewydd i’r Oval nos Wener. Rhoddodd Sion Bradley’r tîm cartref ar y blaen yn yr hanner cyntaf cyn i Nick Rushton achub pwynt i’r ymwelwyr yn yr ail hanner.

Anrheg gan Sion

Aeth y Cofis ar y blaen ddeuddeg munud cyn yr egwyl, Bradley’n troi ei ddyn yn y cwrt cosbi cyn llithro’r bêl heibio i Dave Jones yn y gôl.

Bu bron i Gaernarfon ddal eu gafael wedi hynny ond yn ôl y daeth y Drenewydd gan sgorio gyda dim ond chwe munud o’r naw deg i fynd.

Cofi’n cosbi’r Caneris

Rushton a sgoriodd y gôl, yn gorffen yn gelfydd yn y cwrt cosbi. Ond un o feibion Caernarfon a achosodd y dryswch yn y bocs, tafliad hir nodweddiadol gan y Jake (fab Wayne) Phillips a oedd newydd ddod i’r cae fel eilydd

Mae’n rhaid bod rhywbeth wedi digwydd rhwng Rhuston a gôl-geidwad Caernarfon, Josh Tibbetts, yn gynharach yn y gêm achos roedd blaenwr y Robiniaid yn awyddus iawn i’w wawdio ar ôl ei guro!

Cododd y pwynt Gaernarfon i’r pedwerydd safle yn y tabl a’r Drenewydd allan o’r ddau isaf, dros nos o leiaf.

 ***

Cei Connah 3-1 Met Caerdydd

Cadwodd Cei Connah o fewn cyrraedd i’r Seintiau ar y brig gyda buddugoliaeth dros Met Caerdydd yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy ddydd Sadwrn.

Dechrau da

Tri munud yn unig a oedd ar y cloc pan ddathlodd Mike Wilde ei bedwar canfed ymddangosiad yn Uwch Gynghrair Cymru gyda gôl, yn penio o groesiad Declan Poole.

Cafwyd amddiffynannodweddiadoll o wan gan yNomadiaidd wedi hynny i roi gôl syml ar blât i Emlyn Lewis, un yr un ar yr egwyl.

Dilyn y Seintiau

Roedd Cei Connah yn ôl ar y blaen toc wedi’r awr; croesiad arall gan Poole a’r amddiffynnwr, George Horan, yn canfod ei hun yngnghwrtt cosbi’r gwrthwynebwyr y tro hwn.

Diogelodd Aron Williams y tri phwynt ddau funud o ddiwedd y naw deg gyda chymorth gwyriad.

Mae’r canlyniad yn cadw’r Nomadiaid o fewn tri phwynt i’r Seintiau ar frig y tabl a hynny wedi iddynt chwarae un gêm yn llai.

 ***

Y Barri 4-1 Derwyddon Cefn

Daeth un o fuddugoliaethau mwyaf swmpus y penwythnos ar Barc Jenner ddydd Sadwrn wrth i’r Barri roi pedair heibio i’r Derwyddon Cefn.

Cwpl i Kayne

Sgoriodd Kayne McLaggon ddwywaith i roi mantais iach i’r Barri erbyn hanner amser.

Roedd y gyntaf yn gôl daclus tu hwnt; Evan Press yn bwydo Mikey George ar y dde, croesiad da ganddo ef a McLaggon yn gorffen yn wych ar y foli.

Roedd ail y blaenwr yndipynn blerach na’r gyntaf ond maen nhww i gyd yn cyfrif fel y dywed yr hen air, dwy i ddim wrth droi.

Clwb Cant

Roedd Cefn yn ôl y gêm yn gynnar yn yr ail hanner, croesiad Josh Green a pheniad Alex Darlington.

Mae’r ymosodwr profiadol bellach wedi sgorio cant ac un o goliau yn Uwch Gynghrair Cymru wedi iddo ymuno â’r clwb cant gyda gôl yn erbyn y Fflint ganol wythnos.

Un o’r ymwelwyr a sgoriodd y gôl nesaf hefyd toc cyn yr awr, ond rhoi’r bêl yn ei rwyd ei hun a wnaeth Jacob Wise, yn annoeth braidd gan adfer dwy gôl o fantais y Barri.

Têc a Bow-en

Roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel ym mhell cyn i Sam Bowen ychwanegu’r bedwaredd yn y pumed munud o amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm. Ond am gôl unigol wych oedd hon gan y chwaraewr ifanc sydd ar fenthyg o Gaerdydd.

***

Y Seintiau Newydd 2-1 Pen-y-bont

Arhosodd y Seintiau Newydd ar frig y tabl gyda buddugoliaeth mewn gêm glos yn erbyn Pen-y-bont ar Neuadd y Parc ddydd Sadwrn.

Roedd yr ymwelwyr yn meddwl eu bod wedi cipio pwynt yn yr eiliadau olaf ond ni chafodd y gôl ei chaniatáu a daliodd y Seintiau eu gafael.

Y Goliau

Rhoddodd Ben Ahmun Ben-y-bont ar y blaen wedi dim ond saith munud cyn i Ryan Harrington unioni pethau i’r Seintiau ddeg munud yn ddiweddarach.

Roedd y tîm cartref ar y blaen erbyn hanner amser diolch i gôl i’w rwyd ei hun gan Ashley Evans.

Drama hwyr

Roedd y bêl yng nghefn rhwyd y Seintiau yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm ond daeth lluman dyfarnwrwr cynorthwyol i’r adwy i achub tîm Scott Ruscoe.

Mae’r canlyniad yn cadw’r Seintiau ar y brig ac mae Pen-y-bont yn llithro i’r chweched safle.

***

Y Fflint 3-0 Aberystwyth

Y Fflint a aeth â hi wrth iddynt groesawu Aberystwyth i Gae y Castell ar gyfer gêm fyw Sgorio ddydd Sadwrn.

Rheolwr presennol Aber, Gavin Allen, a sgoriodd unig gôl y gêm y tro diwethaf iddynt ennill yn y Fflint a hynny 23 mlynedd yn ôl. Teg dweud i’r Fflint dreulio rhan helaeth o’r cyfnod hwnnw allan o’r gynghrair ond mae’r rhediad yn parhau wedi i’r tîm cartref ennill y gêm ddiweddaraf o dair gôl i ddim.

Dim Craig ar y Castell

Cyhoeddodd Y Fflint yr wythnos hon fod Nathan Craig yn gadael y clwb yn syth oherwydd ymrwymiadau gwaith cynyddol. Y sïon yw mai dim ond dechrau’r trawsnewidiapersonélel o dan ofal y rheolwr newydd, Neil Gibson, yw hyn. Cawn weld pan fydd y ffenestr drosglwyddo yn agos fis Ionawr.

Cawn hefyd weld a fydd Craig yn ail ymddangos gyda chlwb arall yn y flwyddyn newydd. Yn y cyfamser, mae’n cadw’i hun yn brysur yn gwneud hyn:

***

Mr Hufen Iâ

Nid oedd hi’n dywydd hufen iâ yn y Fflint nos Sadwrn ond cafodd y gôl gyntaf ei gweini gyda fflêc gan Alex Jones i Mark Cadwallader dri munud cyn yr egwyl. Yntau’n torri’r trap camsefyll cyn gorffen yn daclus gydag ochr allan ei droed dde.

Dechreodd Aber yr ail hanner yn dda ac roedd y Fflint braidd yn ffodus i gadw un dyn ar ddeg ar y cae yn dilyn tacl siswrn flêr iawn gan Ben Maher ar Rhys Jones.

Cameo hwyr Rob Hughes

Ar ôl gostegu’r storm ar adegau fe orffennodd y Fflint y gêm yn gryf, gyda Rob Hughes yn creu argraff oddi ar y fainc.

Cafodd ei lorio yn y cwrt cosbi gan eilydd arall, Richy Ricketts, cyn sgorio o’r smotyn. Ychwanegodd ei ail ef a thrydedd ei dîm yn yr eiliadau olaf, ei ergyd yn rhy boeth i Connor Roberts ei hatal.

Mae’r canlyniad yn rhoi Aberystwyth ar waelod y tabl ac yn codi’r Fflint allan o’r ddau isaf, i’r nawfed safle.