Mae rheolwr Abertawe, Steve Cooper, wedi canmol perfformiad yr Elyrch wrth guro Barnsley 2-0 ddoe.

Ar ôl colli i Derby yn gynharach yn yr wythnos, mae eu buddugoliaeth ddoe wedi eu codi i’r trydydd safle yn nhabl y Bencampwriaeth.

“Fe wnaethon ni gymryd cam yn ôl nos Fercher, ond dw i ddim am ddweud mwy am hynny oherwydd fe wnaethon ni bethau’n iawn heddiw,” meddai Steve Cooper ar ôl y gêm.

“Fe wnes i weld yr adwaith hwn yn dod. Fe welais i dân yn eu boliau wrth ymarfer ddoe – roedd y bechgyn yn barod a’r ysbryd yn uchel.

“Roedden nhw’n barod i daro’n ôl ac fe wnaethon nhw hynny. Dw i’n rhagweld yr un agwedd eto yn QPR.

“Allwn i ddim dymuno gweithio gyda grwp mwy proffesiynol ac ymroddgar o fechgyn.

“Gwrandewch, fe fyddwn ni’n colli gemau yn y tymor hwn. Gallwch weld rhai canlyniadau sy’n peri syndod heddiw. Fe fydd dydd San Steffan yr un fath.

“Allwn ni ddim gadael i nosweithiau fel nos Fercher ein diffinio ni. Rhaid i ni gael ein diffinio gan y ffordd rydym yn adweithio iddyn nhw.”

Roedd yr Elyrch ar y blaen drwy’r gêm ddoe o’r ail funud ymlaen, pan sgoriodd Jamal Lowe. Fe ddaeth eu gôl arall yn yr ail hanner pan beniodd Victor Adeboyejo y bêl i’w rwyd ei hun.