Mae’r cwmni fferi mwyaf sy’n teithio ar draws Môr Iwerddon, Stena Line, wedi cyhoeddi bydd y fferi y Stena Foreteller yn cael ei adleoli i lwybr uniongyrchol i’r cyfandir, a hynny ddeg diwrnod yn gynnar.
Roedd disgwyl i’r Stena Foreteller wneud y newid i hwylio i Rosslare yn hytrach na thrwy Gymru a Phryfain ar Ionawr 4 – ond yn dilyn y penderfyniad i gau ffiniau rhyngwladol, bydd hynny yn digwydd heddiw, Rhagfyr 22. yn lle.
Er fod lorïau yn parhau i allu teithio rhwng Caergybi a Dulyn a rhwng Abergwaun a Rosslare, mae angen i bobol ddangos prawf eu bod yn cyflenwi nwyddau a gwasanaethau hanfodol.
Bydd y Stena Foreteller yn ymuno â’r Stena Horizon sydd eisoes yn teithio ar hyd y llwybr rhwng Rosslare – Cherbourg gan ddyblu’r capasiti cludo nwyddau rhwng Iwerddon a’r cyfandir.
Mae disgwyl i Lywodraeth Ffrainc gyhoeddi mesurau fydd yn caniatáu i drafnidiaeth masnach gyda Phrydain barhau ar draws y sianel.
‘Straen enfawr’
Dywedodd Niclas Mårtensson, Prif Swyddog Gweithredol Stena Line, fod datblygiadau diweddar wedi rhoi “straen enfawr” ar y diwydiant logisteg.
“Ein gwasanaeth Rosslare – Cherbourg yw’r groesfan uniongyrchol fyrraf rhwng Iwerddon a Ffrainc, ac rwy’n falch iawn o weld bod ein tîm gweithredol ar Fôr Iwerddon wedi gallu ‘cyflymu’ broses o gyflwyno’r Stena Foreteller, gan ddarparu capasiti ychwanegol hanfodol yn y cyfnod cyn y Nadolig,” meddai.
“Rydym wedi datblygu enw da am gadw llinellau cyflenwi hanfodol ar agor ar gyfer bwyd a chyflenwadau meddygol drwy gydol pandemig Covid-19.
“Ar hyn o bryd rydym yn profi galw enfawr am ein gwasanaethau uniongyrchol i’r Cyfandir.
“Byddwn yn darparu 12 croesfan wythnosol sy’n cysylltu Rosslare a Cherbourg a hyd at 240 o hwyliau’r wythnos ledled rhanbarth Môr Iwerddon, gan gynnig yr hyblygrwydd, yr argaeledd a’r dibynadwyedd sydd eu hangen ar sefydliadau trafnidiaeth a’u cwsmeriaid ar hyn o bryd.”
‘Cyfnod tyngydfennol’
Disgrifiodd Glenn Carr, Rheolwr Cyffredinol Porthladd Rosslare, hyn fel “cyfnod tyngydfennol i’r diwydiant yn Iwerddon.
“Fel Awdurdod Porthladd, rydym yn benderfynol, gan weithio mewn partneriaeth â Stena Line, i gynnig dewisiadau amgen i’r rhai y mae’r cyfyngiadau sydd newydd eu cyflwyno i’r bont dir yn effeithio ar eu cadwyni cyflenwi,” meddai.
“Rydym yn croesawu ymateb Stena Line i drefnu capasiti ychwanegol yn gyflym ar lwybr Rosslare i Cherbourg, a byddwn yn parhau â’n hymdrechion i ymateb yn effeithiol wrth i fesurau Covid-19 effeithio ar fusnes Iwerddon.”
Darllen rhagor: