Yn dilyn cyfarfod brys Cobra heddiw, mae Boris Johnson wedi dweud bod trafodaethau yn parhau ar ôl i Ffrainc wahardd loriau o’r Deyrnas Unedig rhag croesi’r sianel.

Mae’r Almaen, yr Eidal, yr Iseldiroedd, Gwlad Belg, Gwlad Pwyl, Awstria, Denmarc, Iwerddon a Bwlgaria oll ymhlith y gwledydd sydd wedi cyhoeddi gwaharddiadau ar deithiau o’r Deyrnas Unedig (DU) ar ôl y cyhoeddiad bod amrywiad newydd o Covid-19 yn lledaenu ar draws de-ddwyrain Lloegr.

Mae Iwerddon hefyd wedi gwahardd teithio, ac eithrio lorïau sy’n cario nwyddau hanfodol.

Nod y trafodaethau rhwng Prydain a Ffrainc yw sicrhau bod posib cludo nwyddau eto cyn gynted â phosib.

Ar ôl trafod gydag Emmanuel Macron, Prif Weinidog Ffrainc, dywedodd Boris Johnson ei bod yn sgwrs “arbennig”, a bod Emmanuel Macron, yn ei dyb o, “yn awyddus i sortio popeth o fewn yr oriau nesaf, os yw hynny’n bosib.

“Mae ein timau yn gweithio yn galed – os allwn gael canlyniad, byddai hynny’n wych, ond fe ddown i drefniant mor sydyn â phosib,” meddai Prif Weinidog y Deyrnas Unedig.

Pwysleisiodd Boris Johnson fod y gwaharddiadau hyn ond yn cael effaith ar lwythi sy’n cael eu trin gan bobol, a bod hynny yn effeithio “20% yn unig” o’r nwyddau sy’n mynd a dod drwy wledydd Ewrop.

Golyga hyn fod y rhan fwyaf o fwydydd, meddyginiaethau, a nwyddau yn cyrraedd fel yr arfer, meddai.

“Plis peidiwch â theithio i Swydd Gaint”

Gan bod y ffin â Ffrainc wedi cau, mae Grant Shapps, Gweinidog Trafnidiaeth Llywodraeth Prydain, yn erfyn ar bawb i beidio â theithio i Swydd Gaint.

“Plis peidiwch â theithio i Swydd Gaint,” erfynodd.

“Dylai pawb aros adre, mae’n rhaid i bawb sy’n byw mewn ardaloedd lefel 4 aros adre, ac mae’n rhaid i bawb mewn ardaloedd lefel 3 aros yn lleol.”

Yn y cyfamser, mae Grant Shapps wedi gosod mesurau brys ar yr M20 yng Nghaint er mwyn ymdopi â’r holl lorïau sy’n disgwyl wrth y porthladd.

Gwadodd Grant Shapps y bydd y ciwio yn amharu ar gyflenwad y brechlyn Pfizer/BioNTech sy’n cyrraedd gwledydd Prydain.

Wrth i Ffrainc wahardd yr holl deithio o’r Deyrnas Unedig am 48 awr, roedd pryderon y bydd hyn yn effeithio’n sylweddol ar nwyddau, tra bod teithwyr ar draws Ewrop yn wynebu’r posibilrwydd na fyddan nhw’n gallu dychwelyd adre cyn y Nadolig.

Yn gynharach, rhybuddiodd Sainsbury’s y gallai’r ciwiau yng Nghaint, lle mae mwy na 170 o loriau yn aros o amgylch porthladd Dover, amharu ar gyflenwad rhaid bwydydd megis letus, salad, ac orenau, sydd yn cael eu mewnforio o Ewrop yn ystod y gaeaf.

Ond dywedodd Gweinidog Trafnidiaeth Ffrainc, Jean-Baptise Djebarri, ei fod yn gobeithio y byddai gwledydd yr Undeb Ewropeaidd yn dod i drefniant fel bod lorïau yn gallu symud rhwng y ddwy wlad eto.

Sylwadau Llywodraeth Cymru

Wrth drafod y cyfarfod Cobra, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

“O ran effaith y gwaharddiadau teithio a osodwyd gan bartneriaid Ewropeaidd, diweddarodd y Prif Weinidog y cyfarfod ar y sefyllfa bresennol ym porthladdoedd Cymru.

“Er nad oes angen cynlluniau rheoli traffig ar hyn o bryd, dywedodd y Prif Weinidog yn glir fod trefniadau gyda Gweriniaeth Iwerddon yn bwysig iawn o ran cynnal y sefyllfa honno.

“Mae cadwyni cyflenwi ledled y DU ar gyfer bwyd, cyflenwadau meddygol, cyfarpar diogelu personol a brechlynnau yn gadarn.

“Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro’r sefyllfa’n ofalus yn y dyddiau i ddod.”