Mae archfarchnad Sainsbury’s wedi rhybuddio efallai bydd prinder cynnyrch oherwydd y cyfyngiadau mewn porthladdoedd.

Mae Ffrainc wedi gwahardd lorïau’n cludo nwyddau o’r Deyrnas Unedig am 48 awr er ei bod yn debygol eu bod ar fin dod a’r gwaharddiad i ben.

Er bod Gweinidogion yn mynnu nad yw hyn yn effeithio ar loriau sy’n teithio o Ffrainc mae pryder na fydd gyrwyr yn fodlon gwneud y daith i wledydd Prydain gan na fydd modd iddynt ddychwelyd.

“Mae holl gynnyrch ar gyfer cinio Nadolig eisoes yn y wlad ac mae gennym ddigon o’r rhain,” meddai llefarydd ar ran archfarchnad Sainsbury’s.

“Rydym hefyd yn ceisio dod o hyd i bopeth allwn o’r Deyrnas Unedig ac yn edrych ar drafnidiaeth arall ar gyfer cynnyrch o Ewrop.

“Ond os na fydd newid, byddwn yn dechrau gweld bylchau yn ein siopau dros y dyddiau nesaf – letys, dail salad, blodfresych, brocoli a rhai ffrwythau – sydd i gyd yn cael eu mewnforio o’r Cyfandir yr adeg yma o’r flwyddyn.

“Rydym yn gobeithio y gall llywodraethau’r Deyrnas Unedig a Ffrainc ddod o hyd i ateb sy’n blaenoriaethu cludo cynnyrch ac unrhyw fwyd arall drwy borthladdoedd.”

“Does dim angen mynd i banig”

“Does dim angen mynd i banig” – dyna yw neges prif weithredwr y Ffederasiwn Bwyd a Diod.

Fodd bynnag rhybuddiodd Ian Wright bod “pryder” ynglŷn â chyflenwadau bwyd yn yr hir dymor, yn enwedig ar ôl y Nadolig.

“Y broblem yw gyrwyr sy’n dod i’r Deyrnas Unedig ac sydd eisiau ddychwelyd,” meddai wrth BBC Breakfast.

“Os na ellir rhoi sicrwydd bod modd iddynt adael y Deyrnas Unedig oherwydd y tagfeydd neu y byddant yn gallu sicrhau ei bod yn dychwelyd gyda lori lawn o ba bynnag gynnyrch ydyw, mae hynny’n mynd i’w gwneud yn llawer mwy annhebygol iddynt ddod yn y lle cyntaf.

“A dros amser, oherwydd bod angen y teithiau crwn yma ar y system drafnidiaeth, bydd hynny’n lleihau ein gallu i ddod â bwyd i’r wlad ar ôl y Nadolig.

“Mae angen ateb pragmatig arnom sy’n gadael i yrwyr groesi’r ffin i mewn i’r Deyrnas Unedig drwy ba bynnag lwybr yn yr un ffordd ag a gawsom drwy gydol y cyfyngiadau ym mis Mawrth.”

‘Rhaid datrys hyn cyn gynted â phosib’

Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Grant Shapps fod cwmnïau cludo “wedi arfer rhagweld aflonyddwch” a bod amrywiadau mewn cyflenwad “drwy’r amser”.

“Rhaid datrys hyn cyn gynted â phosib,” meddai wrth Sky News.

Bydd Grant Shapps yn cyfarfod â Gweinidog Trafnidiaeth Ffrainc, Jean-Baptiste, yn ddiweddarach ddydd Llun.

“Does neb am weld cwmnïau cludo ddim yn gallu teithio, yn bennaf am bod y mwyafrif yn gwmnïau cludo Ewropeaidd a’r nwyddau yn rhai Ewropeaidd yn bennaf, felly ni fyddant am weld y bwyd yn pydru mwy na ni.

“Mae’r gadwyn gyflenwi yn eithaf cadarn ond wrth gwrs mae amrywiadau yn y cyflenwad drwy’r amser.

“Ar y cyfan, ni fydd pobol yn sylwi ar hyn.”