Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn am drafodaethau brys gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar ôl i wledydd cyfagos wahardd loriau’n cludo nwyddau o’r Deyrnas Unedig.
Wedi i Ffrainc atal traffig o borthladd Dover mae Llywodraeth Iwerddon hefyd wedi cyhoeddu mai dim ond cerbydau nwyddau hanfodol sydd yn cael teithio yno.
‘Cadw draw’
Mae cwmni Stena Line – sydd yn hwylio rhwng Caergybi a Dulyn a rhwng Abergwaun a Rosslare –wedi annog teithwyr i gadw draw o borthladdoedd.
“Dim ond gweithwyr cadwyn gyflenwi hanfodol sydd â phrawf o statws o’r fath sy’n cael teithio,” meddai Stena Line.
“Peidiwch â dod i’r porthladd yn ystod y cyfnod hwn gan na chaniateir i chi deithio.”
Mae cwmni Irish Ferries hefyd wedi dweud mai dim ond cludo nwyddau sy’n cael ei ganiatáu rhwng Caergybi a Dulyn a rhwng Doc Penfro a Rosslare.
“Mae llywodraeth Iwerddon wedi rhoi gwybod wrthym i beidio â derbyn unrhyw deithwyr sy’n teithio i Iwerddon,” meddai’r cwmni.
“Bydd Irish Ferries yn rhoi ad-daliad i’w ddefnyddio eto i’r rhai nad ydynt bellach yn gallu teithio.
“Nid yw hyn yn berthnasol i yrwyr cludo nwyddau.”
Bydd cyfyngiadau Iwerddon ar hediadau a phorthladdoedd yn para am 48 awr ac yn cael eu hadolygu mewn cyfarfod cabinet ddydd Mawrth, Rhagfyr 22.