Mae llosgfynydd wedi ffrwydro ar Big Island yn Hawaii, yn ôl Arolwg Daearegol yr Unol Daleithiau.

Fe ddechreuodd y ffrwydrad yn llosgfynydd Kilauea nos Sul (Rhagfyr 20).

Mae’r llosgfynydd o fewn Parc Cenedlaethol Llosgfynyddoedd Hawaii.

Does dim rhagor o wybodaeth ar hyn o bryd.