Fe fydd teithwyr sydd wedi gorfod canslo eu trefniadau ar gyfer y Nadolig yn cael ad-daliad am docynnau trên neu fws, meddai’r Llywodraeth.

Mae’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth Grant Shapps wedi dweud na fydd cwsmeriaid “ar eu colled” am “wneud y peth iawn” wrth i’r cyfyngiadau Covid-19 gael eu tynhau ar draws y Deyrnas Unedig.

Daw hyn ar ôl i’r Prif Weinidog Boris Johnson dynhau’r cyfyngiadau dros gyfnod y Nadolig a rhoi rhannau helaeth o ddwyrain a de ddwyrain Lloegr o dan fesurau Haen 4. Mae Cymru hefyd wedi cael ei rhoi o dan gyfyngiadau Haen 4 ers nos Sadwrn (Rhagfyr 19).

Fe fydd ad-daliadau i deithwyr sydd wedi gorfod canslo teithiau ar drên neu fws yn Lloegr yn y cyfnod rhwng Rhagfyr 23 a 27, meddai’r Adran Drafnidiaeth.

Dim ond tocynnau sydd wedi cael eu prynu ar ôl Tachwedd 24 a chyn y newidiadau ar Ragfyr 19 fydd yn cael eu had-dalu.

Mae teithwyr yn cael eu cynghori i wirio gwefannau eu cwmni trenau ynglŷn â sut i hawlio’r arian yn ôl.

Roedd disgwyl i’r cyfyngiadau gael eu llacio dros gyfnod yr Ŵyl er mwyn caniatáu i aelwydydd gwrdd dros bum niwrnod. Ond yn dilyn cynnydd mewn achosion o’r coronafeirws, dim ond dwy aelwyd – y tu allan i ardaloedd Haen 4 – fydd yn gallu cwrdd ar Ddydd Nadolig.