Mae’r marchnadoedd stoc wedi gweld cwymp heddiw (Dydd Llun) yn dilyn y cyhoeddiad y Llywodraeth ddydd Sadwrn am gyfyngiadau pellach a phryderon na fydd cytundeb Brexit erbyn y cyfnod trosglwyddo ar ddiwedd y mis.

Roedd Mynegai’r 100 Cwmni (FTSE) wedi agor 2% yn is bore ma (Dydd Llun, Rhagfyr 21) ond erbyn 9.45yb roedd wedi gwella i 1.45%.

Roedd cwmnïau gan gynnwys IAG, perchennog British Airways a chynhyrchwyr peiriannau Rolls-Royce wedi cael ergyd drom, tra bod cwmnïau ar-lein fel Ocado a Just Eat Takeaway wedi gweld eu cyfrannau’n codi.

Roedd y bunt wedi gostwng yn erbyn y ddoler (1.79%) a’r ewro (1.38%).

Y cwmnïau sydd wedi cael eu taro waethaf yw’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan y cyfyngiadau Haen 4 newydd – sydd wedi arwain at wledydd yn Ewrop yn gwahardd pobl rhag teithio o’r Deyrnas Unedig – gan gynnwys cwmnïau hedfan a theithio fel easyJet, FirstGroup, National Express, Tui, Trainline a’r cwmni llongau pleser Carnival.

Roedd cyfrannau yn y cwmnïau hynny wedi gostwng rhwng 5% a 9%.

Bu gostyngiad hefyd ymhlith tafarndai a grwpiau hamdden fel Mitchells & Butlers, Wetherspoon’s a Cineworld.

Gyda siopau sydd ddim yn gwerthu nwyddau hanfodol hefyd yn gorfod cau, mae cwmnïau fel Frasers Group a WH Smith wedi gweld gwerth eu cyfrannau’n gostwng tua 8%.