Mae’n ymddangos bod Ffrainc ar fin dod a diwedd i’r gwaharddiad ar loriau rhag croesi’r Sianel a gafodd ei gyhoeddi yn sgil pryderon am amrywiad newydd, a mwy heintus, o’r coronafeirws.

Yn ôl gweinidog trafnidiaeth Llywodraeth Ffrainc, Jean-Baptiste Djebbari, fe fydd protocol newydd mewn grym er mwyn sicrhau bod loriau’n gallu teithio o’r Deyrnas Unedig.

Mae pobl o’r DU wedi cael eu gwahardd rhag teithio i rannau helaeth o Ewrop – a rhai gwledydd eraill y byd – wrth i awdurdodau gyflwyno gwaharddiadau oherwydd pryderon am yr amrywiad newydd o’r firws.

Roedd Ffrainc wedi ymateb drwy wahardd loriau yn cludo nwyddau rhag croesi’r Sianel.

Dywedodd Jean-Baptiste Djebbari: “O fewn yr oriau nesaf, ar lefel Ewropeaidd, fe fyddwn yn sefydlu protocol iechyd cadarn i sicrhau y gall cludiant o’r DU barhau.

“Ein blaenoriaeth yw diogelu ein dinasyddion”.

Daw’r cyhoeddiad wrth i’r Prif Weinidog Boris Johnson gynnal cyfarfod o’r pwyllgor brys Cobra prynhawn ma (Dydd Llun, Rhagfyr 21) i drafod y sefyllfa.

Ymhlith y gwledydd sydd wedi gwahardd teithwyr o’r DU mae Ffarinc, Iwerddon, yr Iseldiroedd, Gwlad Belg, yr Eidal, Awstria, Bwlgaria, y Weriniaeth Siec, Slofacia, Denmarc, El Salvador, Twrci, Canada a Hong Kong.