Yn dilyn Adolygiad Gwariant ‘siomedig iawn’ gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer yr hyn fydd yn sylfaen i adferiad Cymru.

Yn dilyn cytundeb gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig mae gan Lywodraeth Cymru £5bn ychwanegol eleni, ond bydd hynny’n disgyn i £766m yn 2021/22.

Heddiw (Rhagfyr 21) bydd Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans, yn cyhoeddi Cyllideb Ddrafft a gynlluniwyd i ddiogelu’r Gwasanaeth Iechyd a’r economi.

Ddeuddydd ar ôl i Gymru gyflwyno cyfnod clo cenedlaethol newydd mae’r gwrthbleidiau’n dweud bod y cyllid sydd ar gael gan San Steffan yn “annigonol”.

‘Canlyniadau dwys i’n cymunedau’

Eglurodd Rebecca Evans fod y pandemig wedi cael effaith “wirioneddol ddwys” ar economi, cymdeithas a chymunedau yng Nghymru.

“Er nad oes ateb syml yn bosibl mewn argyfwng byd-eang o’r raddfa hon, gallwn ddewis buddsoddi nawr i ddiogelu’r hyn sydd bwysicaf a sicrhau’r newid sy’n hanfodol i’n hadferiad,” meddai.

“Bydd y gyllideb hon yn blaenoriaethu cyllidebau’r GIG a’n gwasanaethau cymdeithasol ac yn rhoi’r setliad gorau sy’n bosibl, mewn amgylchiadau ariannol anodd, ar gyfer y gwasanaethau llywodraeth leol yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt.

“Byddwn yn targedu buddsoddiad newydd i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd ac i gefnogi swyddi a hyfforddiant, gan helpu hefyd y rhai mwyaf agored i niwed a’r rhai sydd wedi’u taro galetaf.

“Rwy’n falch hefyd y bydd y Gyllideb hon yn rhoi hwb i’n cenhadaeth i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb, hyrwyddo gwaith teg a darparu mwy o gyfleoedd i blant a phobl ifanc.”

“Mae angen cyllideb sy’n mynd i’r afael â rhestrau aros y GIG”

Mae llefarydd cyllid y Ceidwadwyr Cymreig, Nick Ramsey wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wneud gwell defnydd o’r cyllid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi rhoi £5 biliwn i Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â Covid-19 dros y 9 mis diwethaf, ar ben cynyddu cyllideb Llywodraeth Cymru o £1.4 biliwn beth bynnag eleni. Y flwyddyn nesaf bydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn cynyddu o leiaf £1.3 biliwn,” meddai.

“Yn anffodus, fodd bynnag, gadawodd Llywodraeth Cymru £1.8 biliwn heb ei wario yn eu cyllideb ddiweddaraf.

“Wrth i Lywodraeth Cymru lansio eu cyllideb heddiw, rydyn ni am weld cyllideb sy’n cynyddu’r faint sy’n cael ei wario ar bobl ifanc.

“Mae angen cyllideb sy’n mynd i’r afael â’r rhestrau aros yn ein GIG yng Nghymru.

“Yn olaf, mae angen i’r gyllideb sicrhau y gallwn adeiladu’n ôl yn well a sicrhau dyfodol mwy disglair i Gymru.”

“Cwbl annigonol”

Yn y cyfamser dywedodd llefarydd cyllid Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth bod yr arian sy’n cael ei ddarparu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn “gwbl annigonol”

“Yn ystod y pandemig hwn, mae anghydraddoldeb yn gyffredin yng nghymunedau Cymru. Mae angen gweithredu ar frys i gydbwyso ein heconomi, i godi plant allan o dlodi, ac i gydnabod cyfraniad hanfodol ein gweithwyr rheng flaen.

“Ni ddylai unrhyw ranbarth o Gymru gael ei adael ar ôl yn yr ymdrech hon.”

“Er bod Llafur yn fodlon amddiffyn undeb sy’n ein gweld yn dioddef esgeulustod flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae Plaid Cymru eisiau i Gymru gael yr holl ysgogiadau economaidd sydd eu hangen arnom i deilwra adferiad gyda buddiannau ein cymunedau wrth ei wraidd.”