Mae disgwyl i Boris Johnson gynnal trafodaethau brys gyda gweinidogion ar ôl i Ffrainc wahardd loriau’n cludo nwyddau o’r Deyrnas Unedig, a gwledydd ar draws y byd wedi gwahardd hediadau yn sgil pryderon am yr amrywiad newydd, mwy heintus, o’r coronafeirws.
Fe fydd y Prif Weinidog yn cadeirio cyfarfod o bwyllgor brys Cobra heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 21) yn dilyn rhybuddion y bydd y gwaharddiad yn “amharu’n sylweddol” ar borthladdoedd y Sianel yng Nghaint.
Mae gyrwyr loriau wedi cael eu hannog i gadw draw o Gaint yn sgil rhybuddion am broblemau posib wrth i gyfnod trosglwyddo Brexit agosáu ar Ragfyr 31.
Mae Llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon wedi gwahardd holl loriau, ar wahan i rai sy’n cludo nwyddau hanfodol, rhag teithio o wledydd Prydain a gwaharddiad ar hediadau am 48 awr.
Gwahardd teithiau
Mae gwledydd gan gynnwys Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, yr Iseldiroedd, Gwlad Belg, Gwlad Pwyl, Awstria, Denmarc, Iwerddon a Bwlgaria wedi cyhoeddi gwaharddiadau ar deithiau o’r Deyrnas Unedig (DU) ar ôl y cyhoeddiad bod amrywiad newydd o Covid-19 yn lledaenu ar draws de-ddwyrain Lloegr.
Yn ôl yr awdurdodau yn yr Eidal, mae’r amrywiad newydd wedi cael ei ddarganfod ar ôl i deithiwr ddychwelyd i’r wlad yn ddiweddar o’r DU.
Wrth i Ffrainc wahardd yr holl deithiau o’r DU am 48 awr, mae na bryderon y bydd yn effeithio’n sylweddol ar nwyddau tra bod teithwyr ar draws Ewrop yn wynebu’r posibilrwydd na fyddan nhw’n gallu dychwelyd adref cyn y Nadolig.
Dywedodd llefarydd ar ran Rhif 10 bod trafodaethau brys yn cael eu cynnal er mwyn sicrhau bod “cynlluniau cadarn” mewn lle.
Mae na rybudd y gallai’r gwaharddiadau effeithio ar gyflenwadau nwyddau ffres yn y flwyddyn newydd.