Mae Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon wedi dweud ei bod yn “hanfodol” bod Llywodraeth Boris Johnson yn ceisio ymestyn cyfnod pontio Brexit yn dilyn achosion cynyddol o’r amrywiad newydd o Covid-19.

Yn ôl Nicola Sturgeon fe ddylai’r Prif Weinidog ganolbwyntio ei holl ymdrechion ar frwydro’r amrywiad newydd yn hytrach na thrafodaethau Brexit.

Dywedodd bod yr amrywiad newydd “yn golygu ein bod ni’n wynebu sefyllfa ddifrifol iawn, ac mae’n mynnu ein sylw ni 100%.

“Fe fyddai’n afresymol cymhlethu hynny gyda Brexit,” meddai.

Daw ei sylwadau ar ôl i nifer o wledydd wahardd teithiau o’r Deyrnas Unedig oherwydd cynnydd mewn achosion o’r amrywiad newydd o’r coronafeirws.

Mae’r Ysgrifennydd Iechyd Matt Hancock wedi rhybuddio bod yr amrywiad newydd “allan o reolaeth” ac y gallai’r cyfyngiadau diweddaraf orfod bod mewn grym am fisoedd.

Mae Cymru gyfan bellach wedi cael ei rhoi o dan gyfyngiadau clo ‘Lefel 4’.

Daw hyn ar ôl i Boris Johnson gyflwyno cyfyngiadau cyffelyb yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr.