Mae disgwyl i Lywodraeth Iwerddon gyhoeddi cyfyngiadau ar deithwyr o Brydain cyn diwedd y dydd.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Stephen Donnelly fod arweinwyr y pleidiau’n ystyried pa fesurau i’w cymryd gydag awyrennau a llongau sy’n cyrraedd o Brydain.

Mae nifer o wledydd Ewrop eisoes wedi cyflwyno gwaharddiadau ar awyrennau o’r Deyrnas Unedig yn sgil ofnau y gallai’r straen newydd o’r coronafeirws ledaenu.

Mae’r rhain yn cynnwys yr Eidal, Gwlad Belg, Awstria a’r Iseldiroedd ac mae disgwyl i Iwerddon ddilyn eu hesiampl.

“Rydym yn bryderus am y straen newydd o’r coronafeirws,” meddai Stephen Donnelly.

Ychwanegodd na fydden nhw’n cau’r ffin rhwng Gogledd Iwerddon a’r Weriniaeth ond y byddai cyngor cryf yn cael ei gyhoeddi.