Fe fydd Heddlu’r Alban yn dyblu eu presenoldeb ar hyd y ffin â Lloegr ar ôl i’r Prif Weinidog Nicola Sturgeon gyhoeddi cyfyngiadau coronafeirws tynnach yn y wlad.

Dywed y Prif Gwnstabl lain Livingstone y bydd “patrolau amlwg iawn” ar ffyrdd yn cael eu defnyddio fel rhybudd i unrhyw un a allai fod yn ystyried torri’r cyfyngiadau teithio.

Mae cyfyngiadau’r cyfnod clo yn yr Alban yn cynnwys rhwystro teithio’n ôl ac ymlaen i wledydd eraill y Deyrnas Unedig. Mae’r rhain mewn grym ers y mis diwethaf ond y bwriad tan ddoe oedd eu llacio dros gyfnod y Nadolig.

Mae rhai eithriadau’n cael eu caniatáu i ddibenion hanfodol.

“Synnwyr cyffredin, cydymdeimlad a doethineb”

“Rwyf heddiw wedi awdurdodi dyblu ein presenoldeb gweithredol yn ardaloedd gororau’r Alban,” meddai’r Prif Gwnstabl Livingstone.

“Mae eich gwasanaeth heddlu yma i gefnogi’n cyd-ymdrech i rwystro’r coronafeirws.

“Er bod y rheolau wedi newid yn aml, ac ar adegau, yn gyflym, bydd plismyn yn dal i weithio gyda’n cyd-ddinasyddion i helpu cadw pawb yn ddiogel, gan ddefnyddio’n synnwyr cyffredin, cydymdeimlad a doethineb wrth wneud hynny.

“Fe mae’n cymunedau’n ni’n ei ddisgwyl, lle bo plismyn yn gweld torcyfraith bwriadol, parhaus neu ddigywilydd, byddwn yn gweithredu’n gadarn i orfodi’r gyfraith.”

Ychwanegodd ei fod yn disgwyl i’r ffyrdd fod yn dawelach nag arfer dros y dyddiau nesaf.