Mae 69 o farwolaethau lle’r oedd coronafeirws yn ffactor wedi cael eu cofnodi yng Nghymru dros y cyfnod 24 awr diwethaf.

Dyma’r nifer uchaf i gael ei gofnodi mewn un diwrnod ers cychwyn y pandemig, ac mae’n codi’r cyfanswm i 3,115. Mae’n ddwywaith cymaint â’r 35 a gafodd eu cofnodi ddoe.

Dros yr un cyfnod, cafodd 2,334 o achosion newydd o’r haint eu cadarnhau.

Mae dros 3,000 wedi marw o’r coronafeirws yng Nghymru erbyn hyn.

Mae cyfanswm yr achosion a gadarnhawyd ers i’r pandemig ddechrau bellach yn 122,766.

Daw hyn wedi i “waith cynnal a chadw” olygu bod 11,000 o brofion Covid-19 positif gael eu hychwanegu at y data yr wythnos ddiwethaf.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi bod angen cymryd gofal wrth ystyried cyfansymiau dyddiol a bod tueddiadau mwy cyffredinol dros gyfnodau hirach yn ffordd gywirach o fesur.