Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi fod dros 3,000 wedi marw oherwydd y coronafeirws yng Nghymru.

Mae ffigurau diweddaraf, a gyhoeddwyd ddydd Gwener (Rhagfyr 18), yn dangos bod 38 o farwolaethau eraill wedi’u cofnodi yn ystod y 24 awr ddiwethaf, gan fynd â’r cyfanswm i 3,011.

Cofnodwyd hefyd 2,801 o achosion newydd sy’n golygu cyfanswm o 117,367.

Daw hyn wedi i 11,000 o achosion ychwanegol gael eu hychwanegu at y cyfanswm ddydd Iau, ar ôl i waith cynnal a chadw olygu nad oedd y niferoedd wedi’u cynnwys.

Mae lefelau’r haint ar eu gwaethaf yn y de, ac yn llai dwys o lawer yn y gogledd.

Mae 1,226.7 o achosion i bob 100,000 o bobl ym Merthyr Tudful (ffigurau dros gyfnod y saith diwrnod diwetha’), ond 38.5 yw’r ffigur yn Ynys Môn.

Cyfradd yr achosion yn ystod y saith diwrnod diwethaf yng Nghymru yw 562.2 i bob 100,000 o bobol – yr uchaf o unrhyw wlad yn y Deyrnas Unedig.

Rhybuddiodd Gweinidog Iechyd Meddwl a Lles Cymru, Eluned Morgan, y gallai’r gyfradd yng Nghymru fynd y tu hwnt i 1,000 o achosion i bob 100,000 os yw’r cyfyngiadau ar letygarwch yn methu “cicio i mewn”.

Yn ystod cynhadledd i’r wasg brynhawn dydd Gwener dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi “ymrwymo’n llwyr” i gyfyngiadau i Gymru gyfan.

Dywedodd mai nod symud i’r lefel uchaf o gyfyngiadau yw sicrhau nad yw’r Gwasanaeth Iechyd yn cael ei “llethu”.

Yn dilyn y Dolig mae Cymru yn wynebu clo mawr am gyfnod amhenodol, o Ragfyr 28 ymlaen.