Mae cyfraddau’r coronafeirws ar gynnydd ar draws y rhan fwyaf o Gymru a Merthyr Tudful sydd â’r gyfradd uchaf ym Mhrydain, mae ffigyrau newydd yn dangos.

Mae’r cynnydd mwyaf yng Nghymru ym Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr sydd â chyfraddau o fwy na 1,000 o achosion fesul 100,000 o bobl yn y saith diwrnod hyd at 14 Rhagfyr.

Merthyr Tudful sydd â’r gyfradd uchaf o achosion Covid-19 newydd o unrhyw ardal awdurdod lleol yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd, gyda 1,226.7 o achosion i bob 100,000 o bobl.

Mae hyn i fyny o 689.6 yr wythnos flaenorol.

Pen-y-bont ar Ogwr sydd â’r gyfradd uchaf ond un, ar ôl codi o 561.7 i 1,004.4, gyda 1,477 o achosion newydd.

Mae Blaenau Gwent yn drydydd – yno mae’r gyfradd wedi cynyddu o 611.2 i 923.2, gyda 645 o achosion newydd.

Daw’r ffigurau diweddaraf ychydig ddyddiau ar ôl i Lywodraeth Cymru ddweud y bydd ei ‘rheol aelwydydd’ yn cael ei lleihau i ddwy aelwyd dros y Nadolig, ac y bydd hynny’n cael ei wneud yn gyfraith.

Cyhoeddodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, hefyd fod y “cynnydd parhaus y coronafeirws” yn golygu y bydd y wlad yn mynd i mewn i glo llawn o 28 Rhagfyr ymlaen.

Conwy ac Ynys Môn sydd â’r cyfraddau isaf yng Nghymru.

Yng Nghonwy, mae’r gyfradd wedi gostwng o 88.7 i 81.9, gyda 96 o achosion newydd.

Ar Ynys Môn mae’r gyfradd wedi gostwng o 47.1 i 38.5, gyda 27 o achosion newydd.

Y rhestr gyflawn

Mae’r ffigurau, ar gyfer y saith diwrnod hyd at 14 Rhagfyr, yn seiliedig ar brofion a gynhaliwyd yn labordai GIG Cymru a’r rhai a gynhaliwyd ar drigolion Cymru a brosesir mewn labordai masnachol.

Mynegir y gyfradd fel nifer yr achosion newydd fesul 100,000 o bobl.

Mae data ar gyfer y pedwar diwrnod diweddaraf (Rhagfyr 15-18) wedi’i eithrio gan ei fod yn anghyflawn ac yn tanddatgan gwir nifer yr achosion.

Mae’r rhestr yn seiliedig ar ddata a gyhoeddwyd ar ddangosfwrdd Covid-19 Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 18 Rhagfyr.

O’r chwith i’r dde, mae’r rhestr fel a ganlyn: enw’r awdurdod lleol; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at 14 Rhagfyr; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at 14 Rhagfyr; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at 7 Rhagfyr; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at Ragfyr 7.

Merthyr Tudful 1226.7, (740), 689.6, (416)

Pen-y-bont ar Ogwr 1004.4, (1477), 561.7, (826)

Blaenau Gwent 923.2, (645), 611.2, (427)

Casnewydd 848.9, (1313), 603.2, (933)

Rhondda Cynon Taf 833.9, (2012), 546.7, (1319)

Caerffili 828.4, (1500), 560.5, (1015)

Castell-nedd Port Talbot 811.5, (1163), 735.4, (1054)

Torfaen 782.2, (735), 488.5, (459)

Abertawe 756.3, (1868), 569.2, (1406)

Sir Gaerfyrddin 684.4, (1292), 352.8, (666)

Caerdydd 629.0, (2308), 440.2, (1615)

Bro Morgannwg 526.2, (703), 275.5, (368)

Sir Fynwy 431.3, (408), 339.4, (321)

Wrecsam 387.6, (527), 234.6, (319)

Sir Benfro 263.9, (332), 159.0, (200)

Sir y Fflint 244.7, (382), 176.2, (275)

Powys 216.0, (286), 116.3, (154)

Ceredigion 206.3, (150), 205.0, (149)

Sir Ddinbych 157.8, (151), 101.4, (97)

Gwynedd 82.7, (103), 45.0, (56)

Conwy 81.9, (96), 88.7, (104)

Ynys Môn 38.5, (27), 47.1, (33)