Mae prisiau tai wedi codi 8.1% yng Nghasnewydd, neu £15,000 ar gyfartaledd, ôl ymchwil gan gwmni sy’n rhoi cyngor am safon arwerthwyr tai.

Casnewydd yw’r ardal sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf mewn prisiau tai yng Nghymru eleni.

Mewn cymhariaeth, cynyddodd prisiau tai 1.8% yn Abertawe a 2% yng Nghaerdydd.

Yn ôl yr ymchwil gan gwmni Movewise, mae cyfyngiadau sydd mewn lle i leihau lledaeniad y coronafeirws wedi arwain at bobol yn gweithio o adref a’r awydd i fod gyda mwy o le tu allan i’w cartrefi.

Mae hyn wedi arwain at fwy o bobol yn symud o ddinasoedd fel Caerdydd a Llundain i drefi a dinasoedd cyfagos.

‘Ail-werthuso’

Eglurodd Tom Scarborough, Prif Swyddog Gweithredol Movewise, fod y cynnydd mewn pobol sydd yn ‘ail-werthuso’ wedi cael effaith ar y stoc tai mewn rhai ardaloedd.

“Heb os, mae’r newid i’r dreth stamp a gyflwynwyd ym mis Gorffennaf wedi achosi cynnydd ym mhrisiau tai, gan godi tâl ar y farchnad eiddo yn ail hanner y flwyddyn. Rydym wedi gweld cynnydd mewn prynwyr sydd yn ceisio manteisio ar arbedion treth stamp o hyd at £15,000. Mae hynny, ynghyd â stoc tai isel a pharhaus mewn sawl ardal.

“Fodd bynnag, mae effaith y cyfyngiadau symud hefyd wedi achosi newid amlwg yn lle rydym am fyw a’r hyn rydym am ei gael o’n cartrefi, ac mae hynny wedi achosi twf mewn prisiau tai mewn trefi y tu hwnt i ddinasoedd.

“Hyd yn oed ar ôl i’r cyfyngiadau ddod i ben, mae llawer ohonom wedi ail-werthuso’r hyn rydym am ei gael o’n bywyd cartref…

“Rydym yn disgwyl i’r newid hwn barhau drwy 2021 gyda mwy o bobl yn gwneud y penderfyniad i fyw ymhellach o ardaloedd trefol mawr, yn enwedig wrth i’r fwy o bobol barhau i weithio o gartref.”