Mae Arolygydd Heddlu ym Merthyr Tudful yn dweud ei bod yn “amhosib credu” bod 170 o geir wedi ymgasglu ar safle profi am y corona, mewn ardal ble mae’r pla ar ei waetha’.

Oherwydd bod y sefyllfa gynddrwg ym Merthyr – 1,032 o achosion am bob 100,000 o’r boblogaeth – mae yna gynllun eang i geisio profi pawb yn yr ardal.

O gymharu, mae nifer yr achosion ar eu hisaf yng Nghymru ym Môn – 33 achos am bob 100,000 o’r boblogaeth.

“Rhoi eu cariad at geir uwchlaw’r angen i leihau’r perygl”

Mae chwech o drefnwyr y ‘cyfarfod ceir’ ym Merthyr ar nos Sul, Tachwedd 29, wedi eu dirwyo gan yr heddlu am dorri rheolau’r corona.

Ac mae swyddogion yn rhybuddio eu bod yn dal i fynd drwy tystiolaeth fideo er mwyn gallu adnabod eraill fu yn y cyfarfod, y tu allan i Bentref Hamdden sy’n cael ei ddefnyddio fel safle i brofi pobol am y corona.

“Mae’r rhai drefnodd a’r rhai fynychodd y digwyddiad hwn wedi anwybyddu’r cyfyngiadau coronafeirws yn llwyr, ac wedi rhoi eu cariad at geir uwchlaw’r angen i leihau’r perygl [o ledaenu’r corona] iddyn nhw eu hunain ac eraill,” meddai’r Arolygydd Jonathan Duckham.

“Mae yn anodd credu bod y cyfarfod wedi ei drefnu ar yr union safle ble mae pobol yn cael eu profi am goronafeirws oherwydd bod y sefyllfa yn lleol mor ddifrifol.”

“Annog yr heddlu i adnabod y troseddwyr”

Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Merthyr, Kevin O’Neill fod ymddygiad y ceir-garwyr yn “hollol annerbyniol… mae trigolion wedi diodde’ goryrru, sŵn ac ymddygiad anghymdeithasol am o leiaf dair blynedd, ac rydw i wedi cael sicrwydd yn awr fod ganddo ni fâs data o’r rhai fu’n mynychu’r cwrdd.

“Rydw i’n annog yr heddlu i adnabod y troseddwyr yn gyflym a’u bod yn gweithredu yn y ffordd briodol”.