Mae’r gŵr wnaeth ffurfio Mudiad Amddiffyn Cymru (MAC) yn y 1960au, mewn ymateb i foddi Cwm Tryweryn, wedi marw yn 87 oed.
Fe gafodd John Jenkins ei garcharu am osod bomiau, yn enw MAC, yn adeiladau Llywodraeth Prydain ac ar bibellau yn cario dŵr tros Glawdd Offa.
Yn 1969 fe gafodd ei ddal a’i ddedfrydu i ddeng mlynedd o garchar am ei ymgyrch fomio i geisio tarfu ar arwisgiad y Tywysog Charles y flwyddyn honno.
Bywyd cynnar
Fe gafodd John Jenkins ei eni yng Nghaerdydd a’i fagu ym mhentref Penybryn, ger tref Gelligaer yng Nghwm Rhymni.
Bu’n mynychu Ysgol Ramadeg Bargoed ac ymunodd gyda’r Fyddin Brydeinig yn 1950.
Daeth yn aelod o Fudiad Amddiffyn Cymru yn 1964 a buan y daeth yn arweinydd ar y criw.
Wedi ei gyfnod yn y carchar bu yn weithiwr cymdeithasol proffesiynol.
‘Lladd y Tywysog Charles’
Hanner canrif wedi’r Arwisgiad, yn 2019 fe gyhoeddwyd y cofiant John Jenkins: The Reluctant Revolutionary?, ac ynddo roedd John Jenkins yn dweud ei fod wedi gorfod darbwyllo aelodau eraill o MAC i beidio lladd y Tywysog Charles yn yr Arwisgiad yng Nghaernarfon.
‘Mi fydden ni wedi medru ei ladd o,’ meddai John Jenkins yn y llyfr.
‘Yn un peth, roeddwn i yn Sarjant yn y British Army Dental Corps, ac ar ddyletswydd yng Nghaernarfon y diwrnod hwnnw.
‘Mi fyddwn i wedi medru cario reiffl a’i saethu yn y fan a’r lle pe bawn i eisiau.’
Ond roedd John Jenkins yn erbyn lladd y Tywysog, ac fe gafodd waith yn darbwyllo aelodau eraill o MAC i feddwl yr un fath.
‘Un peth nad sy’n hysbys yw mai un o’r brwydrau caletaf a gefais erioed oedd gydag ein pobol ni ein hunain,’ meddai John Jenkins.
‘Fe dreuliais i lawer o amser yn yr wythnosau cyn yr Arwisgo yn teithio o gwmpas yn un o geir civilian y Fyddin, yn tawelu’r dyfroedd.
‘Roedd pobol yn mynd yn fwyfwy, wel, anwaraidd wrth i’r seremoni agosáu.
‘Roedden nhw yn dweud: “Mae’r ateb yn syml. Does dim modd cael Arwisgiad os ydan ni’n ei ladd o”.
‘A byddwn i yn gorfod pwysleisio, “Oce, ond beth ddiawl wnawn ni gyflawni yn wleidyddol os wnawn ni hynny? Dim byd”.’
Rhedeg MAC tra’n aelod o Fyddin Prydain
Elfen ryfeddol o hanes John Jenkins yn y 1960au oedd iddo redeg ymgyrch fomio MAC tra’r oedd yn Sarjant ym myddin Prydain.
Adeg yr Arwisgiad yn 1969 roedd yng Nghaernarfon gyda’r fyddin i amddiffyn y Tywysog Charles.
“Roedd o mewn pentref o bebyll milwrol yng Nghaernarfon,” eglura Wyn Thomas, awdur John Jenkins: The Reluctant Revolutionary?, “a dyma fflap y babell yn cael ei hagor yn ddisymwth, meddai, yn fuan iawn yn y bore.
“A dyma’r boi yma yn rhoi ei ben fewn i’r babell a dweud: ‘We got two of the bastards last night!’
“A dyma fo’n cau fflap y babell a mynd. A dywedodd John ei fod wedi treulio’r diwrnod cyfan yn ceisio gweithio allan beth oedd wedi codi hwyliau’r boi yma, a’i fod yn rhywbeth i’w wneud gyda’r ymgyrch [MAC].”
Yr hyn oedd dan sylw oedd bod dau o aelodau MAC wedi marw wrth i fom roedden nhw yn ei osod yn Abergele, ffrwydro yn ddamweiniol.
Drwy gydol diwrnod yr Arwisgiad roedd yn rhaid i John Jenkins wrando ar filwyr yn gwneud jôcs am ben y ddau gafodd eu lladd yn Abergele.
Dim ond wrth wylio’r newyddion gyda’r nos y cafodd wybod bod y ffrwydro wedi digwydd yn Abergele, a gweithio allan pwy oedd wedi marw.
‘Yn llinach Owain Glyndŵr’
Mae un o sylfaenwyr Mudiad Amddiffyn Cymru wedi dweud fod ganddo “barch aruthrol” i’r diweddar John Jenkins.
“Mae wedi cyfrannu mwy at adfer cenedlaetholdeb ac ymwybyddiaeth o Gymreictod na neb ers dyddiau Owain Glyndŵr mwy na chwe chan mlynedd yn ôl,” meddai Owain Williams wrth golwg360.
“Dw i mor falch i mi gael y fraint o’i adnabod – dw i ddim yn un o’r bobol yma sy’n cuddio tu ôl i ddrysau caeedig yn wfftio ei ddewrder a’i ymroddiad, dim ond canmoliaeth ac edmygedd enfawr.
“Cafodd erioed y clod roedd yn haeddu – petai o wedi ei eni’n Wyddel byddai ar y pinacl. Ond yng Nghymru roedd dan draed, ac mae hynny’n warth ar ein cenedl ni.
“Does yna ddim llawer o bobol yng Nghymru sydd wedi aberthu dros ei wlad – mae yna bobol wedi manteisio ar aberth eraill wrth gwrs – y tueddiad yng Nghymru ydy fod pobol yn anghofio pwy wnaeth yr aberth go-iawn.”
Wrth ei gyfarfod am y tro cyntaf yn y 1960au, mae Owain Williams yn cydnabod ei fod ychydig yn amheus o John Jenkins.
“Daeth i fy ngweld i ac yn ystod y sgwrs mi ddatgelodd ei fod yn aelod o’r fyddin Brydeinig. Mi o’n i’n ddrwgdybus iawn ohono, i fod yn onest, oherwydd yn y cyfnod yna roedd yr heddlu cudd yn brysur iawn a’r arwisgiad ar y gorwel.
“Ond ar ôl sgwrs hir iawn mi eglurodd ei fod yn bwriadu gweithredu ac atgyfodi MAC.
“Does gen i ddim byd ond edmygedd a pharch aruthrol iddo, oherwydd ei aberth.
“Gafodd o ddim dimau goch am ei weithredu, y cwbl gafodd o oedd dioddefaint a’i gloi ar Ynys Wyth mewn carchar ymhell oddi wrth ei deulu a’i blant.
“Aberthodd y cyfan.”
Hwyluso datganoli
Mae Owain Williams yn credu bod gweithredoedd John Jenkins a MAC wedi braenaru’r tir ar gyfer datganoli grym gwleidyddol i Gymru.
“Yn sicr, oni bai am John Jenkins a phobol fel Alwyn Jones a George Taylor, a gafodd eu lladd yn Abergele noson yr arwisgiad, dw i ddim yn credu bysa yna bobol freintiedig yn cerdded o amgylch y Senedd ym Mae Caerdydd heddiw.
“Dw i’n llawenhau yn fawr i weld miloedd yn gorymdeithio heddiw gyda YesCymru, ond faint o’r rheini sydd yn sylweddoli pwysigrwydd aberth John Jenkins a’i gyfraniad i adennill annibyniaeth i’n gwlad?
“Cawn ni neb fel John byth eto. Dydy pobol ddim yn credu mewn defnyddio grym heddiw, ond pan mae yna rym yn eich gwrthwynebu chi, mae yna rywun yn gorfod camu fyny a thaflu’r garreg gyntaf yna, ac mi wnaeth John hynny.”
Darllen mwy