Mae Llywodraeth Cymru wedi “ymrwymo’n llwyr” i’w chynlluniau i gyflwyno cyfyngiadau ledled Cymru, er gwaethaf galwadau i amrywio’r rheolau yn dibynnu ar ddifrifoldeb y sefyllfa mewn ardaloedd penodol o’r wlad.
O Ragfyr 28 ymlaen mi fydd y cyhoedd yn cael eu cynghori i aros adref, a bydd siopau nad sy’n hanfodol yn cau ledled y wlad gyfan.
Ac mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu hyn, gan ddadlau y dylid cyflwyno rheolau gwahanol mewn rhannau gwahanol o Gymru, gan fod lefel y feirws yn amrywio o le i le.
Yn siarad mewn cynhadledd i’r wasg brynhawn heddiw, dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg ac Iechyd Meddwl, bod y Llywodraeth am gadw at y cynllun o gyflwyno clo cenedlaethol.
“Dw i’n credu ei fod yn hollol briodol ein bod yn edrych ar lefydd fel Ynys Môn a Chonwy lle mae lefelau’r feirws yn is,” meddai.
“Ond am y tro, rydym wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau ein bod yn camu at y cyfyngiadau yma yn un genedl.
“Efallai yn ddiweddarach mi fyddwn yn dechrau meddwl am ddod allan o’r cyfyngiadau ar lefelau gwahanol. Ond mae hynny’n dibynnu ar sut y bydd y feirws yn ymddwyn dros yr wythnosau nesa’.”
Dibynnu ar ein gilydd
Wrth gyfiawnhau’r penderfyniad i gyflwyno’r un rheolau i Gymru gyfan, pwysleisiodd Eluned Morgan bod y feirws yn “gyffredin ym mhob un o’n cymunedau” a bod yna botensial am ledaenu pellach.
“Rhaid i ni gydnabod ein bod yn genedl lle mae [rhanbarthau] yn dibynnu ar ei gilydd,” meddai.
“Rydym yn byw drws nesa’ i’n gilydd, ac mae’r cyfathrebu rhyngom yn golygu bod lledaeniad y feirws yn debygol o ddigwydd.
“Mae hyn hefyd yn fater o ddiogelu cymunedau fel eu bod nhw ddim yn symud at lefelau uwch. Y cynharaf y caiff cyfyngiadau eu cyflwyno, yr hawsaf yw hi i reoli’r feirws.”
Lefelau’r haint
Mae lefelau’r haint ar eu gwaethaf yn ne Cymru, ac yn llai dwys o lawer yn y gogledd.
Mae 1,128.9 o bob 100,000 gyda covid ym Merthyr Tudful (ffigurau dros gyfnod y saith diwrnod diwetha’) ond 37.1 yw’r ffigur yn Ynys Môn.