Mae dyn 47 oed wedi marw wedi i’w gar wrthdaro gydag ambiwlans ar yr A4061 yn Nhreherbert, yn Rhondda Cynon Taf, am tua saith o’r gloch neithiwr.

Bu farw’r dyn lleol a oedd yn gyrru’r car Mazda glas, yn y fan a’r lle.

Fe aethpwyd â dyn oedd yn eistedd yn sedd flaen y car i’r ysbyty, ac mae mewn cyflwr difrifol.

Ac fe gafodd gyrrwr 52 oed yr ambiwlans ei gludo i’r ysbyty a’i drin am fân anafiadau, cyn cael mynd adref.

Mae Heddlu’r De yn cynnal ymchwiliad i’r gwrthdrawiad ac mae swyddogion yn gofyn i unrhyw dystion gysylltu â nhw.