Daeth rhybudd swyddogol y gallai glaw trwm achosi llifogydd yng Nghymru ddydd Gwener, Rhagfyr 18.

Mae rhybudd melyn mewn lle yn y de, y canolbarth a’r gorllewin tan dri’r bore dydd Sadwrn, ac mae’r Swyddfa Dywydd hefyd wedi cyhoeddi rhybudd glaw ambr ar draws y cymoedd a’r de rhwng bore Gwener a hanner nos.

Mae’r rhybuddion ym Mlaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Thorfaen.

Gallai gwasanaethau trafnidiaeth, llinellau pŵer a chartrefi yn yr ardaloedd hyn gael eu heffeithio.

Llifogydd lleol

Hefyd mae Cyfoeth Naturiol Cymru  wedi cyhoeddi 29 o rybuddion llifogydd lleol a dau rybudd lle disgwylir llifogydd ar yr Afon Tywi yng Nghaerfyrddin a’r Afon Ritec yn Ninbych-y-pysgod.

“Mae disgwyl i fand glaw trwm ymledu ar draws rhannau o Gymru rhwng dydd Gwener a dydd Sadwrn gan achosi llifogydd mewn sawl ardal o Dde a Chanolbarth Cymru,” eglurodd Sean Moore, Rheolwr Tactegol Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae disgwyl i 100mm o law ddisgyn mewn rhai ardaloedd.

“Mae gennym dimau allan yn gwirio amddiffynfeydd ac yn monitro lefelau afonydd ochr yn ochr â chyngor y Swyddfa Dywydd i ragweld perygl llifogydd.

“Byddwn yn diweddaru ein rhybuddion llifogydd pan yn briodol.

“Rydym yn annog pobl i gadw llygad barcud ar adroddiadau tywydd ac ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru am fanylion am unrhyw effeithiau posibl yn eu hardaloedd.

“Rydym hefyd yn cynghori pobol i gymryd gofal ychwanegol wrth deithio gan y gallai ffyrdd fod yn beryglus.”