Mae dyn 31 oed o’r Coed Duon yng Ngwent wedi ei garcharu am flwyddyn a hanner, wedi i’r heddlu ei ddal yn gyrru car pan oedd wedi ei wahardd rhag gwneud hynny.
Dywedodd swyddogion traffig Heddlu Dyfed-Powys ei bod yn wyrthiol na chafodd neb eu hanafu wrth i Shaun Davies yrru rownd corneli yn ardal Llambed heb olau ar ei gar Peugeot, wrth iddo geisio dianc rhag y Glas.
Bu yn gyrru ar ochr anghywir y ffordd, ar gyflymder o 80 milltir yr awr, ac yn diffodd ei olau bob hyn a hyn, er mwyn ceisio dianc.
Hefyd, wrth i’r heddlu ei hela yn ystod oriau mân y bore ar Dachwedd 29, bu Shaun Davies yn taflu tŵls a thatws yn ôl tuag at gar yr heddlu.
Yn cuddio mewn mieri cyfagos
“Roedd yn gyrru mewn ffordd hollol beryglus, mewn ymgais amlwg i geisio atal yr heddlu rhag ei ddilyn,” meddai’r heddwas Oliver West.
Daeth y dihiryn i stop pan osododd yr heddlu ‘stinger’ ar y ffordd er mwyn tyllu teiars yn ei gar – ond fe lwyddodd i barhau i yrru’r Peugeot am hanner milltir arall cyn arafu a dod i stop.
Ac er iddo redeg o’r car a cheisio cuddio, daeth y Glas o hyd iddo yn cuddio mewn mieri cyfagos.
Wedi iddo gyfaddef i resiad o droseddau – gyrru’n beryglus, gyrru tra wedi’i wahardd, methu stopio ar gais heddwas, gyrru heb yswiriant, achosi perygl i ddefnyddwyr y ffyrdd, a meddu ar gyffur amffetamin dosbarth B – fe gafodd Shaun Davies ei ddedfrydu i flwyddyn a hanner o garchar yn Llys y Goron Abertawe’r wythnos hon.