Mae Keir Starmer wedi dweud y byddai cyfyngu cymysgu dros y Nadolig i ddim ond dwy aelwyd yn “gam i’r cyfeiriad cywir” wrth iddo annog Boris Johnson i wneud y rheolau yn “galetach”.
Mae Prif Weinidog Prydain wedi bod yn gwrthsefyll pwysau i beidio llacio’r cyfyngiadau dros yr ŵyl gydag arbenigwyr yn rhybuddio y bydd yn arwain at gynnydd mawr mewn marwolaethau.
Mae wedi gwrthod newid y gyfraith fydd yn caniatáu i dair aelwyd gymysgu dros bum niwrnod – yn hytrach, anogodd y cyhoedd i gael Nadolig llai, a byrrach, i helpu i gyfyngu ar ledaeniad y feirws.
“Camgymeriad mawr nesaf”
Ond rhybuddiodd arweinydd y Blaid Lafur, Keir Starmer, mai llacio’r cyfyngiadau fydd “camgymeriad mawr nesaf y Prif Weinidog”, gan ychwanegu: “Mae’n rhaid iddo fod yn galetach dros y Nadolig, mae’n rhaid iddo ddangos rhywfaint o arweiniad.”
Dywedodd Starmer fod newid y gyfraith i uchafswm o ddwy aelwyd yng Nghymru yn ddechrau da pan gafodd ei bwyso ar y mater yn ystod cyfweliad ym mhencadlys Llafur yn Llundain.
“Yng Nghymru, er enghraifft, fe ddaethon nhw [â’r cyfyngiad] i lawr i ddwy aelwyd, sy’n ymddangos yn gam i’r cyfeiriad cywir – efallai y dylen ni hyd yn oed siarad am y niferoedd o fewn yr aelwydydd,” meddai.
“Ond yr hyn na allwch ei gael yw Prif Weinidog sydd, fel y mae wedi’i wneud drwy gydol y pandemig hwn, wedi bod yn rhy araf i weithredu.”
Mae Keir Starmer yn bwriadu treulio’r Nadolig yn ei gartref yn Camden gydag aelodau o’r teulu sydd i gyd yn rhan o’i swigen bresennol, meddai ei lefarydd.