Cafodd mwy na 80 o fechgyn ysgol yn Nigeria eu rhyddhau neithiwr ar ôl iddyn nhw gael eu herwgipio gan ddynion arfog.
Llwyddodd heddlu a’r lluoedd diogelwch i orchfygu’r herwgipwyr mewn brwydr arfog, ac mae’r digwyddiad wedi amlygu’r torcyfraith ac anhrefn yng ngogledd y wlad.
Fe ddigwyddodd yr herwgipio diweddaraf lai na deuddydd wedi i 344 o fechgyn gael eu rhyddhau ar ôl cael eu cipio yn yr un ardal wythnos ynghynt.
Roedd yr herwgipwyr neithiwr eisoes wedi cipio pedwar o bobl a dwsin o wartheg cyn iddyn nhw ddod ar draws y bechgyn, a oedd ar eu ffordd adref o ddathliad, yn ôl yr heddlu lleol.
“Fe wnaeth yr heddlu a grwp o hunan-amddiffynwyr lleol achub y plant ar ôl brwydr arfog yn erbyn y dihirod,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.
“Llwyddodd y timau i chwalu’r dihirod ac achub pawb a chael y gwartheg yn ôl,” meddai. “Mae pobl yn dal i chwilio’r ardal gyda’r nod o arestio dihirod a gafodd eu hanafu neu gasglu eu cyrff meirw.”
Yn ôl trigolion lleol, mae’r ardal yn rhan ogleddol talaith Kaduna yn un o leoedd gwaethaf y rhanbarth am droseddu a herwgipio.