Mae llywodraeth Prydain yn dal i fynnu bod yn rhaid i’r Undeb Ewropeaidd “symud yn sylweddol” tuag at ildio i’w gofynion cyn bod gobaith am gytundeb masnach rhyngddyn nhw.

Mae’r trafodaethau ar berthynas fasnachol Prydain a’r Undeb Ewropeaidd ar ôl diwedd y flwyddyn yn parhau drwy’r penwythnos ym Mrwsel. Er eu bod nhw i fod i ddod i ben heno, mae’n edrych yn fwyfwy tebygol y byddan nhw’n parhau am ychydig ddyddiau eto.

Mae llywodraeth Prydain yn cyhuddo’r Undeb Ewropeaidd o fod yn “afresymol”.

“Mae angen inni gael unrhyw gytundeb yn iawn ac yn seiliedig ar delerau sy’n parchu’r hyn y gwnaeth pobl Prydain bleidleisio drosto,” meddai ffynhonnell o’r llywodraeth.

“Cenedl annibynnol sofran”

“Yn anffodus, mae’r Undeb Ewropeaidd yn dal i wneud gofynion sy’n anghydnaws â’n hannibyniaeth.

“Allwn ni ddim derbyn cytundeb nad yw’n ein gadael ni mewn rheolaeth o’n cyfreithiau a’n dyfroedd ein hunain.

“Heb symudiad sylweddol gan y comisiwn, byddwn yn gadael ar delerau Sefydliad Masnach y Byd (WTO) ar 31 Rhagfyr.”

Mae’n ymddangos bod pysgodfeydd yn benodol yn dal yn asgwrn cynnen rhwng y ddwy ochr – er nad yw’r diwydiant pysgota’n cyfrif and am gyfran fach iawn o economïau Prydain a’r Undeb Ewropeaidd.

Mae llywodraeth Prydain yn mynnu bod ganddi’r hawl “fel cenedl annibynnol sofran” i reoli ei dyfroedd, tra bod gwledydd fel Ffrainc yn benderfynol o amddiffyn bywoliaeth eu pysgotwyr sy’n dibynnu ar allu pysgota yn nyfroedd Prydain.