Roedd trenau gorlawn yn gadael Llundain neithiwr wrth i filoedd geisio dianc oddi wrth gyfyngiadau a gafodd eu cyhoeddi bnawn ddoe.
Roedd teithwyr yn cael eu rhybuddio na fyddai pellter cymdeithasol yn bosibl ar y trenau oherwydd niferoedd y bobl, ac na ddylai’r rhai a oedd yn teimlo’n ‘anghysurus’ aros ar y trên.
Roedd hyn ar ôl i’r Prif Weinidog Boris Johnson gyhoeddi y byddai Llundain a rhannau helaeth o ddwyrain a de-ddwyrain Lloegr, yn cael eu rhoi o dan gyfyngiadau Lefel 4 o hanner nos ymlaen.
Fe wnaeth y cyhoeddiad am 4 o’r gloch y pnawn, ac erbyn 7 o’r gloch neithiwr doedd dim trenau ar gael ar-lein o orsafoedd Paddington, Kings Cross nac Euston.
Mae lluniau wedi eu cyhoeddi ar-lein o dorfeydd mawr yng ngorsaf St Pancras yn disgwyl mynd ar drenau i Leeds.