Mewn araith allweddol yfory (dydd Llun), fe fydd Syr Keir Starmer yn addo y bydd y Blaid Lafur yn cyflwyno datganoli pellach ledled Prydain os bydd yn ffurfio llywodraeth.

Fe fydd manifesto nesaf ei blaid, meddai, yn cynnig rhaglen i ennill grym “er mwyn gwthio hynny ag sy’n bosibl o rym odddi wrth San Steffan”.

Gyda’i lygaid ar etholiad senedd yr Alban y flwyddyn nesaf, dywed y bydd Llafur yn cynnig “dewis amgen cadarnhaol i bobl yr Alban” gan “gadw ac adnewyddu’r Deyrnas Unedig” yr un pryd.

Hon fydd ei araith gyntaf ar ddyfodol y Deyrnas Unedig, ac fe fydd yn gosod sail ar gyfer ymgais Llafur i adennill tir oddi wrth yr SNP yn yr Alban.

Gyda chefnogaeth i annibyniaeth ar gynnydd yno, fe fydd arweinydd Llafur yn dadlau bod yr “hanes, gwerthoedd a hunaniaeth” y mae poblogaeth y Deyrnas Unedig yn eu rhannu yn golygu na ddylai fod lle i ffiniau mewnol.

Gweledigaeth

Mae disgwyl iddo gyflwyno gweledigaeth o bedair cenedl Prydain yn dod at ei gilydd i adeiladu gwlad “sy’n rym dros gyfiawnder moesol a daioni moesol” yn y byd.

Er nad yw’n glir faint o sylw y bydd yn ei roi i Gymru yn ei araith, fe fydd yn addo y bydd datganoli grym oddi wrth San Steffan fod yn un o amcanion allweddol y llywodraeth lafur nesaf yno.

“Efallai mai fi fydd y person cyntaf erioed i geisio cael fy ethol fel prif weinidog y wlad yma ar faniffesto ac iddo’r nod o ennill grym ac wedyn gwthio cymaint ag sy’n bosibl o’r grym hwnn oddi wrth San Steffan,” meddai.

“Oherwydd mae dyhead ledled y Deyrnas Unedig am i wleidyddiaeth a grym fod yn llawer nes at bobl.”