Gyda Chymru gyfan bellach wedi cael ei gosod o dan gyfyngiadau llymach, fe ddaeth i’r amlwg fod pryder am yr amrywiad newydd o’r coronafeirws wedi bod yn allweddol yn y penderfyniad.

Dywed Prif Swyddog Meddygol Cymru fod astudiaeth wedi dangos bod cyfran sylweddol o’r heintiadau COVID-19 yng Nghymru yn deillio o’r amrywiad newydd.

Yn ôl Dr Frank Atherton, mae’r gyfran honno wedi cael ei hamcangyfrif i fod yn rhywle o fewn amrediad eang o 11% i 60%.

Mae hefyd yn rhybuddio bod y straen newydd ym mhob rhan o Gymru.

“Gallai rhai ardaloedd fod â lefelau uwch na’i gilydd ond mae’r data cyfyngedig sydd gennym yn awgrymu bod yr amrywiad yn bresennol mewn gwahanol rannau o Gymru, gan gynnwys y Gogledd,” meddai.

Cyfradd achosion yn codi

Ar hyn o bryd, y gyfradd achosion yng Nghymru o 8 i 14 Rhagfyr yw 587.2 o achosion fesul 100,000 o’r boblogaeth (o gymharu â 525.3 ddeuddydd yn unig yn ôl). Mae hyn wedi cynyddu o 231.6 ym mhob 100,000 am y cyfnod 23 – 29 Tachwedd. Ochr yn ochr â hyn, mae’r gyfradd profion positif dros yr un cyfnod wedi cynyddu i 22.3% ar gyfer Cymru gyfan.

“Mae’r cyngor iechyd cyhoeddus diweddaraf yn awgrymu bod yr amrywiad newydd yn cyfrannu o leiaf, neu o bosibl yn gyrru, y twf hwn yn y cyfraddau,” meddai Dr Frank Atherton.

“O ystyried y risg y bydd y twf uchel yn parhau, ac i gyfyngu ar niwed y pandemig ac atal adnoddau’r Gwasanaeth Iechyd rhag cael eu trechu’n llwyr, rhaid cyflwyno’r mesurau Lefel 4 cyn gynted ag y bo modd.

“Rwyf hefyd wedi cytuno i newid y trefniadau i lacio cyfyngiadau dros y Nadolig fel nad oes modd i 2 aelwyd gwrdd bellach ac eithrio ar Ddydd Nadolig.”

‘Rhaid oedd gweithreddu ar wybodaeth newydd’

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wrth BBC News On Sunday bod yr amrywiolyn newydd wedi cael ei “hau” ledled y wlad.

Dywedodd hefyd fod y penderfyniad i gyflwyno’r clo cyn y Nadolig yn deiliedig ar wybodaeth bod y straen newydd yn arwain at ledaenu’r feirws yn gyflymach.

Ychwanegodd Mr Gething: “Yn anffodus mae ein cyfraddau tua 600 fesul 100,000, maen nhw’n uchel iawn ar draws y wlad gyda chrynodiadau mawr yn ne Cymru – ond mae gogledd-ddwyrain Cymru wedi cael eu heffeithio’n arbennig hefyd.

“Mae hwn wedi bod yn benderfyniad anodd iawn i lawer o bobl yma yng Nghymru, rwy’n gwybod bod pobl wedi bod yn rhwystredig ac mae rhai pobl yn ddig ond rydym yn gorfod gwneud y dewisiadau hyn i geisio cadw pobl yn ddiogel.

“Rydym eisoes wedi symud o flaen gweddill y Deyrnas Unedig i newid ein rheolau am gymysgu dros y Nadolig… [ac mae’r] wybodaeth newydd am yr amrywiolyn newydd, a’r ffaith ei bod yn ymddangos ei fod yn creu twf llawer cyflymach o’r feirws, wir yn golygu bod angen i ni weithredu.”