Mae Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans, wedi cyhoeddi Cyllideb Ddrafft sy’n cynnwys cynlluniau i fuddsoddi £420m yn ychwanegol er mwyn diogelu’r Gwasanaeth Iechyd a’r economi.

Bydd y £420m ychwanegol yn mynd tuag at wasanaethau iechyd a gwasanaethau cyhoeddus, ynghyd â diogelu’r economi, adeiladu dyfodol gwyrddach, a chreu newid ar gyfer Cymru fwy cyfartal, meddai.

Yn dilyn cytundeb gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig mae gan Lywodraeth Cymru £5bn ychwanegol eleni, ond bydd hynny’n disgyn i £766m yn 2021/22.

Daw cyhoeddiad Rebecca Evans ynghylch y Gyllideb wrth i nifer o’r gwrthbleidiau yng Nghymru ddweud bod y cyllid sydd ar gael i Gymru yn “annigonol”.

Dyma’r Gyllideb gyntaf ers dechrau’r pandemig, ac mae’r pecyn yn rhoi £176m yn ychwanegol i lywodraeth leol er mwyn cefnogi ysgolion, gofal cymdeithasol a gwasanaethau lleol sydd wedi bod yn hanfodol wrth ymateb i’r pandemig.

Mae’r pecyn yn cynnwys £10m ychwanegol i’r Grant Gofal Cymdeithasol, sydd bellach yn £50m, er mwyn cydnabod effaith sylweddol y coronafeirws ar y sector.

Bydd buddsoddiad mewn tai cymdeithasol a thai fforddiadwy yn cynyddu i £200m y flwyddyn nesaf, gan greu swyddi a hyfforddiant wrth ddarparu 3,500 o gartrefi newydd.

Bydd y Gyllideb yn cynorthwyo tuag at roi diwedd i ddigartrefedd yng Nghymru, drwy ychwanegu £40m tuag at y Grant Cymorth Tai.

Treth Trafodiadau Tir

Bydd cynnydd o 1% yng nghyfraddau preswyl uwch y Dreth Trafodiadau Tir. Golyga hyn fod y trethi cymharol uwch sy’n cael eu talu wrth brynu eiddo ychwanegol, fel ail gartrefi neu dai sy’n cael eu prynu er mwyn eu gosod, yn cefnogi tai cymdeithasol a swyddi newydd.

Bydd prynwyr eiddo preswyl sy’n gorfod talu cyfraddau preswyl uwch nawr yn talu 4% (fyny o 3%) ychwanegol ar gost yr eiddo, a hynny ar ben y prif gyfraddau preswyl.

Ni fydd y rhan fwyaf o fusnesau sy’n prynu eiddo amhreswyliadwy am lai na £225,000 yn talu unrhyw Dreth Trafodiadau Tir, gan fod y trothwy wedi codi 50%. Bydd y gostyngiad treth yn helpu busnesau sy’n adfer o effeithiau gwaethaf y pandemig, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Bydd y newidiadau yn golygu bod llai o fusnesau’n gorfod talu treth wrth brynu eiddo masnachol neu wrth lofnodi prydles newydd. Bydd busnesau sy’n prynu eiddo ac sy’n dal i orfod talu treth yn gweld eu treth yn gostwng.

Golyga’r newidiadau mai Cymru fydd â’r trothwy uchaf o ran cychwyn talu trethi ar eiddo amhreswyl yn y Deyrnas Unedig.

Mae’r ‘rhent berthnasol’ sy’n ymwneud â thrafodiadau prynu prydles amhreswyl yn newid, gan adlewyrchu’r cynnydd i’r trothwy. Bydd swm y rhent berthnasol yn cynyddu o £9,000 i £13,000, ac yn dod i rym ddechrau Chwefror 2021, yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd.

Gyda’i gilydd, bydd y newidiadau hyn yn creu tua £13m y flwyddyn, a fydd yn cael ei fuddsoddi mewn tai cymdeithasol, gan sicrhau tai cynnes, o ansawdd da.

Ni fydd Llywodraeth Cymru yn estyn y gostyngiad dros dro i’r Dreth Trafodiadau Tir a gafodd eu cyflwyno ym mis Gorffennaf ar eiddo preswyl sy’n cael ei ddefnyddio fel prif annedd, heibio’r dyddiad gorffen gwreiddiol o 31 Mawrth. Dywed Llywodraeth Cymru mai mesur dros dro oedd hwnnw, a’r bwriad oedd cefnogi’r farchnad dai ar adeg ddigynsail.

Bydd dychwelyd i’r cyfraddau a’r bandiau a oedd yn bodoli cyn mis Gorffennaf yn golygu mai Cymru fydd yr unig wlad yn y Deyrnas Unedig fydd â throthwy dechrau sy’n uwch na phris cyfartalog cartref.

Golyga hyn na fydd y rhan fwyaf o brynwyr cartrefi yn gorfod talu’r Dreth Trafodiadau Tir.

O 1 Ebrill 2021, bydd Llywodraeth Cymru yn codi cyfraddau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn unol â chwyddiant. Bydd hyn yn gyson â chyfraddau treth tirlenwi 2021-22 y Deyrnas Unedig. Cefnoga hyn amcan y polisi er mwyn lleihau’r gwastraff y ceir gwared arno mewn safleoedd tirlenwi, ac er mwyn cymryd camau tuag at gyflawni’r nod o ddod yn wlad ddiwastraff.

Dim newid i dreth incwm

Fodd bynnag, cadarnhaodd Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, na fydd unrhyw newid i gyfraddau treth incwm Cymru.

“Adeiladu dyfodol gwyrddach”

Er mwyn adeiladu dyfodol gwyrddach, bydd £40m arall yn cael ei ddarparu ar gyfer gosod seiliau addysg fodern, gan gynnwys £5m ar gyfer cynllun peilot ysgolion carbon sero-net. Bydd £5m arall yn cael ei roi tuag at ddatblygu Fforest Genedlaethol Cymru, a buddsoddi mewn bioamrywiaeth.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddatgarboneiddio trafnidiaeth, gan roi £20m tuag at deithio llesol, a buddsoddi £274.7m mewn rheilffyrdd a’r metro. Ynghyd â hynny, bydd £20m yn cael ei neilltuo i fynd i’r afael â thlodi tanwydd, a chefnogi rhaglenni ynni adnewyddadwy.

Mae dros £20m wedi’i ddarparu i gefnogi’r cynnydd tebygol yn nifer y myfyrwyr sy’n mynychu sefydliadau addysg uwch a’r chweched dosbarth. Bydd £9.4m yn cael ei roi tuag at gefnogi gwasanaethau iechyd meddwl mewn ysgolion ac yn y gymuned.

Creu cymdeithas decach

Er mwyn creu cymdeithas decach a mwy cyfartal, mae’r Llywodraeth am fuddsoddi £13.4m yn ychwanegol i gefnogi plant a phobol ifanc, ac £8.3m er mwyn diwygio’r cwricwlwm.

Mae Llywodraeth Cymru am fuddsoddi mwy i helpu gweithwyr ar incwm isel i ailhyfforddi, gan roi £5.4m ychwanegol i gyrsiau rhad am ddim Cyfrifon Dysgu Personol.

Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru am ddarparu pecyn cychwynnol o £77m i ymateb i Covid-19, er mwyn sicrhau bod cynlluniau hanfodol megis rhoi prydau ysgol am ddim, a’r gwasanaethau olrhain cysylltiadau yn cael eu hymestyn yn 2021.

Meddai Rebecca Evans, Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru: “Wrth i ni baratoi ar gyfer ein camau cyntaf y tu hwnt i’r pandemig, lluniwyd y Gyllideb hon i ddiogelu iechyd a’n heconomi, adeiladu dyfodol gwyrddach a chreu newid ar gyfer Cymru fwy ffyniannus, fwy cyfartal a gwyrddach.

“Er gwaetha’r amgylchiadau mwyaf heriol i ni eu hwynebu erioed fel Llywodraeth, rwy’n falch o gyhoeddi cyllideb sy’n cyflawni ein gwerthoedd, ac sy’n rhoi sylfaen gadarn ar gyfer y weinyddiaeth nesaf.

“Er bod y cyllid cyfatebol y pen yng Nghymru yn parhau i fod yn is na lefelau 2010, bydd ein blaenoriaethau yn ein harwain i sicrhau sefydlogrwydd, diogelu’r hyn sydd bwysicaf, a chreu’r newid sy’n hanfodol ar gyfer adferiad,” ychwanegodd Rebecca Evans.

“Colli cyfle”

Ond yn ôl llefarydd cyllid Ceidwadwyr Cymru, Nick Ramsay, mae Llywodraeth Cymru wedi “colli cyfle” ac “wedi methu delifro cynllun adfywiad i Gymru.”

“Yn hytrach na hybu cyfleoedd, maen nhw eisiau dychwelyd at drethu perchnogion tai pan maen nhw’n prynu tŷ gwerth £180,000 a £250,000.

“Ac yn hytrach na chefnogi ein pobl ifanc a rhoi’r cyllid sydd ei angen, mae Llywodraeth Cymru yn gwario £8.3m ar adolygu’r cwricwlwm yng Nghymru yn lle gwella addysg ar lwyfan y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.

“Mae Cymru yn haeddu gwell.”

“Cwbl annigonol”

Wrth ymateb i gyllideb ddrafft 2021 i 2022, cwynodd Rhun ap Iorwerth AoS, llefarydd Plaid Cymru ar gyllid, am fethiant San Steffan i ariannu Cymru’n ddigonol yn ystod “storm berffaith” Covid a llymder.

“Mae hwn yn setliad ariannol cwbl annigonol i Gymru gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig nad yw’n adlewyrchu, mewn unrhyw ffordd, yr her o ailadeiladu bywyd bob dydd yn oes Covid,” meddai.

“Mae Cymru’n cael ei tharo’n galed gan storm berffaith o Covid a llymder, ac mae ein gallu i fuddsoddi i dyfu ein heconomi yn cael ei lesteirio gan fethiant San Steffan i ariannu Cymru’n ddigonol yn ogystal a’r chap ar fenthyca sy’n ein cosbi.

“Mae rhethreg y Torïaid o ‘lefelu i fyny’ yn cael ei bradychu gan y realiti eu bod yn torri cyllideb gyfalaf Llywodraeth Cymru ar adeg o argyfwng economaidd.

Wrth grybwyll araith Keir Starmer yn gynharach yn y diwrnod, ychwanegodd:

“Nid oes dim a glywsom gan arweinydd Llafur [Keir Starmer] yn ei araith ar ddatganoli heddiw yn awgrymu y byddai economi Cymru yn gwneud yn well hyd yn oed gyda newid mewn llywodraeth yn San Steffan.

“Gwario’n gallach”

“Er ein bod yn croesawu cam bach Gweinidogion Cymru tuag at fynd i’r afael o’r diwedd â phroblem gynyddol ail gartrefi, byddai llywodraeth Plaid Cymru yn mynd lawer ymhellach ac yn adeiladu deg mil o gartrefi cymdeithasol newydd bob blwyddyn i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol yr argyfwng tai,” meddai Rhun ap Iorwerth.

“Mae adeiladu gwydnwch yn ein heconomi yn golygu gwario’n gallach. Byddai ffocws llywodraeth Plaid Cymru ar fuddsoddi mewn seilwaith i greu swyddi sgiliau uchel sy’n talu’n dda a byddai ailgydbwyso’r economi’n rhanbarthol yn gwneud yn union hynny.”