Mae Cyngor Gwynedd wedi sicrhau cyllid sylweddol er mwyn adfywio adeiladau yng nghanol Caernarfon a chynnig llety a chyfleoedd i bobl ifanc bregus yr ardal i ddatblygu eu sgiliau bywyd.
Mae’r cynllun gwerth £950,000 yn cael ei arwain gan Gyngor Gwynedd â’r elusen cefnogi pobl ifanc GISDA, a fydd yn trawsnewid dau adeilad amlwg ar brif sgwâr Maes Caernarfon.
Mae’r cynllun a elwir yn ‘Lle Da’ wedi sicrhau £665,000 o gyllideb gan Lywodraeth Cymru i drawsnewid yr adeiladau i mewn i bedwar o fflatiau ar gyfer hyd at bump o bobl ifanc bregus yn ogystal ag offer hyfforddi a swyddfeydd i GISDA.
Bydd y caffi hyfforddi presennol yn cael estyniad i gefnogi mwy o bobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau er mwyn cynyddu’r cyfleoedd i ymuno’r gweithlu lleol.
“Cefnogaeth angenrheidiol”
“Mae hwn yn brosiect cyffrous iawn, a’r diweddaraf mewn cyfres o ddatblygiadau sydd wedi eu sefydlu’n ddiweddar gan Adran Dai ac Eiddo newydd Cyngor Gwynedd,” meddai Aelod Cabinet Tai Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Craig ab Iago.
“Mae’r prosiect ‘Lle Da’ am gefnogi ein hymdrechion i wneud yn siŵr fod pobl ifanc Gwynedd yn cael mynediad i’r gefnogaeth maen nhw eu hangen fel eu bod yn medru byw’n annibynnol a chyflawni eu llawn botensial yn eu cymunedau.
“Wedi’i gefnogi gan staff profiadol GISDA, mae’r prosiect yma am gynnig cefnogaeth angenrheidiol i bobl ifanc i ddatblygu sgiliau bywyd pwysig fydd yn helpu nhw i sicrhau cyflogaeth addas yma yng Ngwynedd.
“Yn ogystal â chynnig adnoddau angenrheidiol i bobl ifanc yn yr ardal, gobeithiwn bydd adnewyddiad yr adeiladau hyn yn hwb i adfywio adeiladau eraill yn ardal Caernarfon.
“Mae’r prosiect yn anelu i roi bywyd newydd i’r hen adeilad NatWest yng nghanol Caernarfon sydd wedi bod yn wag ers nifer o flynyddoedd ac am ddatblygu’r adeilad hanesyddol yn sylweddol.
“Yn ogystal â phedwar fflat annibynnol, fe fydd fflat hyfforddi yn cael ei ddatblygu a fydd yn cefnogi’r bobl ifanc bregus yma i wneud camau pwysig tuag at fyw’n annibynnol.”
Bydd cais cynllunio ar gyfer y gwaith adnewyddu yn cael ei gyflwyno dros y misoedd nesaf ac os caiff y cais ei gymeradwyo, y bwriad fydd cwblhau’r gwaith yn fuan yn 2022.
“Hwb sylweddol i bobl ifanc a staff GISDA”
Dywedodd Siân Elen Tomos, Prif Weithredwr GISDA:
“Rydym yn eithriadol o falch o’r bartneriaeth arbennig hwn ac yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd am fuddsoddi mewn gwasanaethu pobl ifanc.”
“Rydym eisoes yn cydweithio gydag amryw o asiantaethau ac adrannau o’r cyngor i geisio cynorthwyo pobl ifanc ond bydd yr adnodd hwn yn mynd a ni gam ymhellach ac yn adeiladu a chryfhau’r ddarpariaeth honno.
“Sefydlwyd GISDA yng Nghaernarfon 1985 ac erbyn hyn rydym yn gwasanaethu pobl ifanc ar draws Gwynedd ac yn cynnig amrediad eang o wasanaethau amrywiol.
“Bydd y blynyddoedd nesaf yn rhai heriol i bobl ifanc ac felly mae’r datblygiad hwn yn amserol iawn ac yn rhoi hwb sylweddol i bobl ifanc a staff GISDA.
“Bwriadwn weithio’n agos gyda’n partneriaid a’r gymuned gan sicrhau y bydd llety, llesiant a cyfleoedd i bobl ifanc yn ganolog i’r cyfan.”