Fe fu 2,563 o achosion ychwanegol o’r coronafeirws yng Nghymru gan ddod a’r cyfanswm i 125,329, meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw (Dydd Llun, Rhagfyr 21).

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd wedi cyhoeddi bod 100 yn rhagor o farwolaethau wedi bod dros y penwythnos gan ddod a’r cyfanswm yng Nghymru ers dechrau’r pandemig i 3,125.

Daw’r ffigurau diweddaraf ar ôl i Gymru gyfan gael ei rhoi o dan gyfyngiadau clo Lefel 4.

Daw hyn ar ôl i Boris Johnson gyflwyno cyfyngiadau cyffelyb yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr.

Roedd pob siop nwyddau heb fod yn hanfodol a thafarn a chanolfannau hamdden yn cau o hanner nos nos Sadwrn (Rhagfyr 19) ymlaen.

Mae’r trefniadau i lacio cyfyngiadau am bum niwrnod dros y Nadolig hefyd wedi cael eu diddymu, gan eu cyfyngu i ddwy aelwyd yn cyfarfod ddydd Nadolig yn unig.

Daw’r newid yn sgil rhybuddion gan wyddonwyr fod yr amrywiad newydd, a mwy heintus, o’r coronafeirws yn lledaenu’n llawer cyflymach.