Mae Llywodraeth Cymru wedi galw am drafodaethau “brys” gyda Llywodraeth San Steffan ar ôl i deithwyr fferi yng Nghymru gael eu gwahardd rhag mynd i Weriniaeth Iwerddon.
Daw hyn ar ôl i Ffrainc wahardd lorïau yn cludo nwyddau o’r Deyrnas Unedig, a gwledydd o gwmpas y byd yn atal hediadau yn sgil pryderon am amrywiad newydd o’r coronafeirws.
Mae Gweriniaeth Iwerddon yn caniatáu lorïau nwyddau a theithiau hanfodol o borthladdoedd yng Nghaergybi, Doc Penfro ac Abergwaun ond mae wedi dweud na fydd ymwelwyr eraill yn cael mynediad.
“Monitro’r sefyllfa”
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ddydd Llun (Rhagfyr 21) y byddai Llywodraeth Cymru yn “monitro’r sefyllfa” ac eisoes wedi galw am drafodaethau gyda San Steffan.
“Ein blaenoriaeth yw diogelu buddion pobl a busnesau yng Nghymru,” meddai.
Yn dilyn gwaharddiad 48 awr Llywodraeth Iwerddon, mae Irish Ferries wedi gwahardd teithiau, ar wahân i rai hanfodol, rhwng Caergybi a Dulyn a Doc Penfro a Rosslare, gyda Stena Line yn gwneud yr un peth ar gyfer eu teithiau rhwng Caergybi a Dulyn yn ogystal ag Abergwaun i Rosslare.