Mae’r Prif Weinidog a dirprwy brif swyddog meddygol Cymru wedi amlinellu manylion y dirywiad ddaeth i’r amlwg dros y penwythnos, a pham y bu’n rhaid i Lywodraeth Cymru gyflwyno’r trydydd cyfnod clo cenedlaethol ar fyr rybudd.

Daw’r newid yn sgil rhybuddion gan wyddonwyr fod yr amrywiad newydd o’r coronafeirws yn lledaenu’n llawer cyflymach.

Daeth y clo cenedlaethol diweddaraf i rym yng Nghymru am hanner nos Sadwrn, Rhagfyr 19.

Ychwanegodd Mr Drakeford ei bod hi’n debygol mai’r amrywiolyn newydd sydd yn gyfrifol am y cynnydd mewn achosion yng Nghymru yn ystod yr wythnosau diwethaf.

100 marwolaeth dros y penwythnos

Cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru o fwy na 100 o farwolaethau dros y penwythnos.

“Dyna 100 teulu yn galaru am golli rhywun annwyl y Nadolig hwn,” meddai Mark Drakeford.

“Mae fy meddyliau gyda nhw i gyd.

“Ond oni bai ein bod yn gallu adennill rhywfaint o reolaeth ar ymlediad y coronafeirws, mae’n ddrwg gen i ddweud y byddwn yn gweld mwy o farwolaethau.

“Os byddwn yn parhau i weld achosion yn codi, wedi’u hysgogi gan yr amrywiad newydd, heintus hwn o’r feirws, bydd yr effaith ar ein Gwasanaeth Iechyd yn ddwys.”

Daeth y newid i’r cyfyngiadau ar ôl i’r Prif Weinidog gymryd rhan mewn cyfarfod brys ddydd Sadwrn, Rhagfyr 19, gyda phrif weinidogion yr Alban a Gogledd Iwerddon a Michael Gove o Lywodraeth y DU, a hefyd prif swyddogion clinigol a gwyddonol.

Ymddiheurodd nad oedd modd i Lywodraeth Cymru roi mwy o rybudd o’r newidiadau.

“Ond yng ngoleuni’r wybodaeth oedd gennym o’n blaenau roedd yn hanfodol cymryd camau buan i atal niwed pellach ac achub bywydau yma yng Nghymru,” meddai.

Dywedodd Mr Drakeford fod yr amrywiolyn newydd yn darparu “gwell dealltwriaeth” o ran y cynnydd mawr mewn achosion a phobl yn cael eu derbyn i’r ysbyty a welwyd yng Nghymru o ddiwedd mis Tachwedd ymlaen.

Ddiwedd mis Tachwedd, y gyfradd saith diwrnod ar gyfer Cymru oedd 232 o achosion i bob 100,000 o bobl ond mae hyn bellach yn 623 o achosion i bob 100,000 ac yn codi, meddai Mark Drakeford.

‘Straen newydd yn lledaenu’n gyflym’

Yn ymuno â’r Prif Weinidog yng nghynhadledd olaf Llywodraeth Cymru o’r flwyddyn roedd dirprwy brif swyddog meddygol Cymru, yr Athro Chris Jones.

Eglurodd yr Athro Jones fod deg achos o’r amrywiad newydd wedi eu cofnodi yng Nghymru ddydd Llun diwethaf – yn bennaf yn ardaloedd Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg – ond fod y cyfraddau wedi cynyddu’n sylweddol erbyn y penwythnos, gan gynnwys achosion yng ngogledd Cymru.

Erbyn hyn, mae dros 600 o achosion o’r straen newydd o Covid-19 yng Nghymru, meddai, gan rybuddio bod hyn yn debygol o fod dipyn yn is na’r gwir nifer.

“Mae pob feirws yn gallu newid a dydy’r coronafeirws ddim yn wahanol,” meddai’r dirprwy brif swyddog meddygol.

Fodd bynnag, eglurodd fod yr amrywiad newydd hwn yn “peri pryder”.

“Mae’n cael ei weld yn bennaf yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr, ond hefyd yng Nghymru.

“Mae’r ffordd mae’r feirws wedi lledaenu’n gyflym yn yr ardaloedd yma yn debyg iawn.”

Dywedodd fod yr amrywiolyn newydd 70% yn fwy heintus na’r amrywiad a welwyd gyntaf yn Wuhan yn China flwyddyn yn ôl.

Ac mae data o arolwg heintiau coronafeirws y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod y math newydd o Covid-19 yn bresennol mewn 28% o samplau o Gymru yn ail wythnos Rhagfyr, meddai’r dirprwy brif swyddog meddygol.

Dywedodd yr Athro Jones bod y ffigwr hwn “fwy na dwbl y nifer yn yr wythnos flaenorol”.

“Mae cydweithwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ein cynghori eu bod yn teimlo y gallai’r straen newydd hwn fod yn achosi hyd at 60% o heintiau coronafeirws yng Nghymru,” ychwanegodd.

“Mae’n debyg iawn fod yr amrywiolyn newydd hwn yn sbardun sylweddol i’r twf enfawr mewn achosion rydyn ni wedi’i weld yng Nghymru yn ystod yr wythnosau diwethaf.”

Ffigurau diweddaraf

  • Fis yn ôl, roedd ychydig llai na 1,700 o bobol â symptomau coronafeirws mewn ysbytai yng Nghymru – bellach mae mwy na 2,300.
  • Mae nifer yr achosion yn parhau ar gynnydd – mae bellach 623 o achosion i bob 100,000 o bobol yng Nghymru.
  • 28% o brofion yng Nghymru ar ail benwythnos mis Rhagfyr yn perthyn i’r straen newydd.
  • Heddiw (21 Rhagfyr), cofnodwyd 2,563 yn rhagor o achosion o’r coronafeirws yng Nghymru, gan fynd â chyfanswm yr achosion a gadarnhawyd i 125,329.
  • Nododd Iechyd Cyhoeddus Cymru 10 marwolaeth yn rhagor heddiw (21 Rhagfyr), gan fynd â’r cyfanswm yng Nghymru ers dechrau’r pandemig i 3,125.