Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gofyn i bobol “feddwl o ddifrif” am eu cynlluniau ar gyfer y Nadolig, gan ddweud bod cyfrifoldeb ar bawb i gadw eu teuluoedd yn ddiogel rhag Covid-19 y Nadolig hwn.

Gyda chyfradd achosion Covid-19 yng Ngheredigion yn parhau i gynyddu ar “raddfa frawychus” a ffigurau ar eu huchaf ers dechrau’r pandemig, sef 225.6 fesul 100,000 o’r boblogaeth (ar 20 Ragfyr), mae’r Cyngor yn galw ar bawb i fod yn fwy gwyliadwrus, ac i ddilyn y canllawiau.

Pwysleisia Cyngor Sir Ceredigion bod yr amrywiad newydd o Covid-19 yn bresennol ym mhob rhan o Gymru, a’i fod yn lledaenu’n gyflymach.

“Nadolig llai yn Nadolig mwy diogel”

Yn unol â’r rheolau a ddaeth i rym nos Sadwrn ar draws Cymru gyfan, gall pobol fynd allan i brynu bwyd, i gael addysg, gofal ac iechyd, neu er mwyn mynd i’w gwaith yn unig, os nad yw’n bosib gweithio o gartref. 

Ni chaiff bobol deithio oni bai bod hynny yn hanfodol, ac mae’n rhaid i bobol beidio â chyfarfod â phobol o gartrefi eraill, y tu mewn na’r tu allan.

Gall unigolyn sy’n byw ar eu pen ei hunain, neu riant sengl, ffurfio swigen gefnogol gydag un cartref arall.

Er bod y rheolau hyn yn cael eu llacio ar gyfer diwrnod Nadolig, gyda dwy aelwyd yn cael dod ynghyd, mae’r Cyngor yn dweud bod “Nadolig llai yn Nadolig mwy diogel.”

Mae Cyngor Ceredigion yn atgoffa pobol bod y risg o ledaenu’r feirws yn cynyddu wrth gyfarfod tu mewn, a bydd hyn yn ei dro yn arwain at gynnydd yn nifer y bobol sy’n cael y feirws, yn mynd i’r ysbyty, ac yn marw.

“Peidiwch â rhoi aelodau hŷn eich teulu mewn perygl. Meddyliwch ai dyma’r peth iawn i ddod at eich gilydd y Nadolig hwn,” meddai’r Cyngor mewn datganiad.

Gofynna’r Cyngor wrth bobol ystyried gohirio tan y gwanwyn, pan fydd nifer o’r bobol sy’n debygol o fynd yn ddifrifol wael â’r feirws wedi derbyn y brechlyn, a bydd y tywydd yn caniatáu i bobol ddod at ei gilydd yn yr awyr agored.

Cyngor i leihau’r risg

Er mwyn lleihau’r risg o drosglwyddo Covid-19 maen nhw’n gofyn i bawb ddilyn y canllawiau hyn:

  • Gallwch ffurfio ‘swigen Nadolig’ sy’n cynnwys dim mwy na dwy aelwyd
  • Gallwch chi ond fod yn rhan o un swigen
  • Ni allwch newid eich swigen Nadolig
  • Cadwch eich Nadolig yn lleol
  • Cadwch eich ymweliad yn fyr
  • Cyfyngwch eich cyswllt cymdeithasol yn y cyfnod cyn y Nadolig
  • Gwnewch le rhwng aelodau o wahanol aelwydydd lle bynnag y gallwch, hyd yn oed yn eich swigen Nadolig, tu mewn a thu allan
  • Gadewch awyr iach i mewn i’r tŷ, gan gadw ffenestri neu ddrysau ar agor
  • Golchwch eich dwylo’n rheolaidd
  • Os ydych chi’n teimlo’n sâl, neu â symptomau Covid-19, peidiwch â ffurfio swigen Nadolig. Mae’n rhaid i chi hunan-ynysu ar unwaith, gan adael eich cartref i gael prawf yn unig.
  • Gwisgwch fwgwd bob amser wrth deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, a golchwch eich dwylo.

Mae’r Cyngor yn atgoffa pobol bod symptomau yn cynnwys tymheredd uchel, peswch parhaus newydd, a cholled neu newid i arogl neu flas. Ond gall y symptomau cynnar gynnwys:

  • Cur pen
  • Blinder
  • Poenau cyffredinol sy’n gysylltiedig â’r ffliw fel arfer

Maen nhw’n annog unrhyw un sy’n teimlo’n sâl i fod yn wyliadwrus, ac i archebu prawf os oes unrhyw amheuaeth.