Mae arweinydd y blaid Lafur wedi dweud y byddai’n dadlau yn “angerddol” yn erbyn refferendwm annibyniaeth arall yn yr Alban – ond doedd dim sôn am sefyllfa Cymru fel rhan o’r undeb.

Mae cyn-weinidog Llafur Llywodraeth Cymru ymhlith rheini sydd wedi ei feirniadu.

Er bod Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, eisoes wedi dweud ei bod am gynnal pleidlais arall ar ddyfodol y Deyrnas Unedig yn ystod ei thymor nesaf, mynnodd Keir Starmer na fyddai unrhyw Brif Weinidog cyfrifol yn rhoi sêl bendith i bleidlais arall.

Ychwanegodd Keir Starmer y bydd gwrthwynebu ail refferendwm wrth wraidd ymgais etholiadol y blaid Lafur yn etholiad Senedd yr Alban y flwyddyn nesaf.

“Ni ddylid cael refferendwm annibyniaeth arall’

“Bydd Llafur yn dadlau’n angerddol yn erbyn refferendwm annibyniaeth arall,” meddai Keir Starmer yn ystod ei araith.

“Byddwn yn dadlau hynny heddiw a byddwn yn dadlau hynny yfory.

“Byddai’n gwbl anghywir cynnal refferendwm annibyniaeth arall yn yr Alban yng nghanol y dirwasgiad dyfnaf ers 300 mlynedd, tra’n dal i frwydro’r pandemig hwn, pan mae cymaint o ansicrwydd ynglŷn â Brexit, a coronafeirws yn effeithio ar bob un o honnom.

“Ni ddylid cael refferendwm annibyniaeth arall tra bod ein rhagolygon economaidd ac iechyd mor ansicr – na hyd nes bydd asesiad priodol o gostau, canlyniadau ac ansicrwydd gwahanu.”

Rhagor o ddatganoli

Addawodd Keir Starmer hefyd y byddai “datganoli economaidd a gwleidyddol radical ar draws y Deyrnas Unedig” o dan arweinyddiaeth Llafur.

Fe fydd maniffesto nesaf ei blaid, meddai, yn cynnig rhaglen i ennill grym “er mwyn gwthio hynny ag sy’n bosibl o rym oddi wrth San Steffan”.

Gyda’i lygaid ar etholiad senedd yr Alban y flwyddyn nesaf, dywed y bydd Llafur yn cynnig “dewis amgen cadarnhaol i bobol yr Alban” gan “gadw ac adnewyddu’r Deyrnas Unedig” yr un pryd.

Seddi yn Holyrood ar hyn o bryd:

  • SNP: 61
  • Ceidwadwyr yr Alban: 30
  • Llafur yr Alban: 23
  • Plaid Werdd: 5
  • Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban: 5
  • Annibynnol: 4
  • Dim plaid benodol: 1

Peidio crybwyll Cymru – ‘cywilydd’

Mae cefnogaeth am annibyniaeth ar gynnydd yng Nghymru a’r Alban. Bellach mae gan YesCymru dros 15,000 o aelodau, ac mae pôl piniwn diweddar yn yr Alban yn dangos fod 56% o blaid annibyniaeth yno.

Bu cryn gwyno am y diffyg sylw i Gymru yn yr araith.

Mae cyn-weinidog Llafur Llywodraeth Cymru ymhlith rheini sydd wedi cyhuddo Llafur y Deyrnas Unedig o anwybyddu Cymru.

Er i Keir Satmer addo mwy o ddatganoli i wledydd Prydain dywedodd Alun Davies, Aelod y Senedd dros Flaenau Gwent, ei fod wedi methu “cynnwys Cymru” yn ei araith heddiw.

Gan gyfeirio at neges ar gyfri Twitter y blaid Lafur oedd yn disgrifio’r araith fel ei “araith fawr gyntaf ar yr Alban” dywedodd Alun Davies fod hi’n “gywilydd” bod y blaid Lafur wedi penderfynu peidio cyfeirio at Gymru.

Ymateb Plaid Cymru

Mae Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi ymateb gan ddweud bod araith Mr Starmer “yn gadarnhad nad yw’r Blaid Lafur yn deall nac yn poeni dim am Gymru.”

“Unig gonsyrn Keir Starmer yw cipio etholaethau yn ôl yn yr Alban – strategaeth na fydd yn gwneud dim i wella bywydau pobl yng Nghymru,” meddai Mr Price ar Twitter.

Tynodd syw at Fil y Farchnad Fewnol, gan feirniadu ASau Llafur am “ymatal ar bleidleisiau allweddol”.

“Mae’r dryswch dros ddatganoli gan y Blaid Lafur yn niweidiol i Gymru, niweidiol i bobl Cymru, ac yn niweidiol i’n democratiaeth,” meddai.

Senedd San Steffan ac afon Tafwys - wedi eu goleuo fin nos

Brexit: Bil y Farchnad fewnol yn derbyn cydsyniad brenhinol

Disgwyl i’r cam esgor ar gryn ffraeo rhwng llywodraethau Cymru a San Steffan